Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Gofalu am eich lles

Mae’n Wythnos Iechyd Meddwl ac rydym wedi dod ynghyd gyda Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr CBCDC, Kate Williams, i gynnig syniadau, cyngor ac adnoddau allweddol ynglŷn â sut i ofalu am eich lles eich hun.

Gall bywyd myfyriwr Coleg fod yn un cyffrous, ond weithiau mae’n anodd rheoli’r cyfan sy’n ddisgwyliedig ohonom tra ar yr un pryd yn cynnal iechyd meddwl cadarnhaol.

Os ydych chi’n teimlo fel hyn, mae’n syniad da ceisio cymorth cyn gynted â phosibl.

Bu ein Cyfarwyddwr Cerdd, Tim Rhys-Evans yn siarad â ni am ei brofiad o iechyd meddwl a sut y gall cerddoriaeth gael effaith gadarnhaol ar ein lles:

‘Gall cerddoriaeth siarad pan fydd geiriau’n methu, ac mae’n siarad cymaint am y cyflwr dynol, am ein byd.

Gallwn droi ein hoff gân ymlaen ac yn sydyn, rydyn ni’n teimlo’n wahanol.’
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerdd

Thema’r flwyddyn yw Unigrwydd, sy’n effeithio ar fwy a mwy ohonom yn y DU, gan gael effaith enfawr ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Mae’n dymor datganiadau i’n cerddorion, ac mae’r adran ddrama yn paratoi ar gyfer cynyrchiadau’r haf. Mae’n gyfnod cyffrous i rai, ond i eraill gall fod yn anodd. Felly, credwn y gallai hwn fod yn amser da iawn i ofalu am eich iechyd meddwl!

‘Fel Coleg, rydym yn ymwybodol o’r amgylchedd heriol iawn yr ydym yn gweithio ynddo, ond yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig cefnogaeth bob amser i unrhyw un a allai fod ei angen.

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i neilltuo amser i’n hunain, hyd yn oed yn ystod yr adegau prysuraf hyn o’r flwyddyn academaidd. Mae mor bwysig i’n lles i geisio dod o hyd i eiliadau lle gallwn ymlacio ac anadlu.’
Kate WilliamsRheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y gefnogaeth, y lles a’r gynrychiolaeth y gall fod eu hangen arnynt drwy gydol eu hastudiaethau. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod profiad y Coleg y gorau y gall fod i bob myfyriwr.

Mae llawer o adnoddau ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb y gall unrhyw un gael gafael arnynt, ac mae rhai ohonynt am ddim i’n myfyrwyr. Dyma rai mae Kate yn eu hargymell:

The Field Recording Project:

Creodd The Field Recording Project, gan y myfyriwr Cyfansoddi Ella Roberts, yr adnodd am ddim hwn sy’n caniatáu i chi archwilio’ch amgylchoedd, cysylltu â’r amgylchedd, darganfod synau newydd, a gwneud eich recordiadau eich hun i ddod yn rhan o’r archif sain sy’n tyfu’n barhaus.

Headspace:

'Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar addysg, codi ymwybyddiaeth o’n hamgylchedd bregus a chreu lle o ymwybyddiaeth ofalgar i ofalu am ein hiechyd meddwl.'
Ella RobertsComposition student

Caiff Headspace ei ystyried fel ffrind gorau eich meddwl. Mae’n eich helpu i greu arferion sy’n newid bywyd drwy ymlacio’ch meddwl mewn munudau.

Mae’r Coleg ac Undeb y Myfyrwyr wedi ymuno i dalu am aelodaeth am ddim i Headspace ar gyfer holl staff a myfyrwyr llawn amser CBCDC, a’r cyfan sydd ei angen arnoch i gael mynediad at y gwasanaeth yw eich cyfeiriad e-bost Coleg!

Podlediadau:

Adnoddau ar-lein:

‘Mae gofalu am eich lles yn waith pob dydd. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n cael trafferth, mae llawer o bobl i siarad â nhw oddi mewn a thu allan i’r Coleg. 'Does dim angen i chi frwydro ar eich pen eich hun.’
Kate Williams

Syniadau a chynghorion hunanofal:

Digwyddiadau am Ddim:

Yr wythnos hon, rydym yn eich annog i ddod o hyd i amser i fyfyrio ar eich iechyd meddwl eich hun.

Os hoffech gael cymorth neu gyngor ynglŷn ag unrhyw agwedd ar fod yn fyfyriwr, cysylltwch â’r gwasanaethau myfyrwyr.

Ar gyfer ein myfyrwyr, mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar yr hyb i’w defnyddio ochr yn ochr â’r gwasanaethau y mae’r Coleg yn eu cynnig ar hyn o bryd er mwyn helpu i gefnogi a chynnal eich lles meddyliol.

Diolch i Kate Williams a’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr am ddarparu’r adnoddau gwych hyn i ni eu rhannu.

Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys:

  • Cymorth iechyd meddwl ar ffurf neges destun Am Ddim 24/7 yn y DU – tecstiwch Shout i 85258.
  • Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth ffôn 24 awr, bob diwrnod o’r flwyddyn. Eu rhif yw 116 123.
  • Sefydliad rhyngwladol yw Befrienders ac mae ganddo wybodaeth a llinellau cymorth mewn dewis o ieithoedd.
  • Mae Nightline yn cynnig gwasanaeth ffôn a gynhelir gan fyfyrwyr mewn prifysgolion yn y DU. Gall myfyrwyr CBCDC ffonio’r un rhif â myfyrwyr o brifysgolion eraill Caerdydd, rhwng 8pm ac 8am: 02920 870 555.
  • Mae Llinell Gymorth y GIG yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth am iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Llun – Gwener 10am-2pm a 7pm-11pm, Penwythnosau 12 canol dydd – canol nos.
  • Llinell gymorth 24 awr Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47.
  • Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael argyfwng iechyd meddwl, ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Storïau eraill