Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dosbarth Meistr Djembe gyda Sidiki Dembele

Un peth rydym wedi’i ddysgu o’r cyfnod clo yw grym y celfyddydau i’n cysylltu â’n gilydd, a’r wythnos ddiwethaf cafodd myfyrwyr Offerynnau Taro gyfle gwych i ddod ynghyd drwy rym y djembe.

Arweiniodd Sidiki Dembele, sy’n wir feistr ar yr offeryn hynafol hwn, ddosbarth meistr llawn ysbrydoliaeth ac emosiwn – y tro cyntaf i’r myfyrwyr fod gyda’i gilydd mewn cig a gwaed fel adran lawn ers mis Mawrth.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

'Roedd dosbarth Sidiki yn agoriad llygad. Y djembe yw ei fywyd a gwnaeth ein trin gyda chymaint o garedigrwydd a pharch. Gwnaethom ddysgu cymaint am ei ddiwylliant a’i linach ac addysgwyd sgiliau i ni a fydd nid yn unig yn ein helpu i fod yn well chwaraewyr djembe, ond yn well cerddorion a phobl.'
Mary JohnsonMyfyriwr Offerynnwr Taro

Allow Instagram content?

Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

'Mae gan y djembe le arbennig ym mywydau offerynwyr taro gan mai hwn yw’r offeryn taro hynaf y gwyddom amdano ac mae mor berthnasol ar y llwyfan offerennau taro yn fyd-eang.' eglurodd cyd-fyfyriwr offerynnau taro, Isaac Cortvriend.

'Roedd yn ddiwrnod a fydd yn aros yn fy nghof am byth. Alla’i ddim dechrau disgrifio sut mae meddwl ac enaid y gŵr hwn yn un gyda’i djembe. Roedd mor wylaidd ac roedd ei ddiwylliant yn gyfoethog ac yn llifo’n ddwfn ym mhob elfen o deulu a cherddoriaeth ac roedd yn ysbrydoliaeth lwyr.'
Isaac CortvriendMyfyriwr Offerynnau Taro

'Yn ystod y diwrnod dysgom am rôl y chwaraewyr djembe mewn pedair dawns draddodiadol o Orllewin Affrica, pob un â’i rythmau, toriadau a galwadau i gyd-fynd â hwy. Roeddem yn eu hadeiladu i fyny ac yna cawsom sesiwn hir yn chwarae drwy’r ddawns gyfan!

Gwnaeth y ffaith bod Sidiki mor barod i rannu a’n hamgylchynu â’i holl dreftadaeth deuluol a’i angerdd y diwrnod yn un arbennig dros ben. Mewn rhai ffyrdd roedd yn teimlo fel seibiant i’r meddwl o weddill ein bywydau prysur, oherwydd pan oeddem yn ei chanol hi gallem anghofio am bopeth arall!'

Roedd bod yn dyst i Sidiki yn chwarae yn un o’m huchafbwyntiau cerddorol.
Patrick KingPennaeth Offerynnau Taro CBCDC

Gwnaethom groesawu Sidiki yn ôl i’r Coleg – fe ymwelodd llynedd, gan berfformio a chynnal gweithdai fel rhan o’r Manchester Collective.

Storïau eraill