Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Hyfforddeiaeth y cynllunydd Millie yn Theatr Clwyd

Llongyfarchiadau i Millie Lamkin, a raddiodd mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio, y person cyntaf i ennill hyfforddeiaeth newydd CBCDC a Theatr Clwyd.

Wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth mewn rolau oddi ar y llwyfan yn y diwydiant celfyddydau perfformio, mae’r rôl â thâl 18 mis yn cefnogi myfyriwr sydd newydd raddio i weithio ym mhob maes o dŷ cynhyrchu theatr. 

Dechreuodd Millie ym mis Medi ac mae ganddi eisoes lawer o newyddion a phrofiadau i’w rhannu â ni.

Pam dod i astudio yn CBCDC yn wreiddiol?

Fe ddes ar draws gwefan CBCDC flynyddoedd cyn i mi hyd yn oed ystyried o ddifrif gynllunio fel gyrfa. Rwy’n cofio pa mor gyffrous oeddwn gan gysyniad y cwrs. Roedd yn edrych yn anhygoel, a chedwais ef yng nghefn fy meddwl wrth i mi wneud gradd sylfaen mewn celfyddyd gain yn Central Saint Martins. Arweiniodd hyn fi at gynllunio a rhoddodd amser i mi ystyried o ddifrif pa lwybr creadigol yr oeddwn am ei ddilyn.

Fe wnes i hefyd ddilyn cyrsiau pypedwaith yn y National Theatre i ehangu fy mhrofiad cyn dechrau yn y Coleg. Wrth gyfweld ar gyfer cyrsiau cynllunio, cefais fy nghyfareddu ar unwaith gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd teimlad o gymuned yno, ac roedd ymroddiad y staff a’r myfyrwyr i’r cwrs yn amlwg o’r cychwyn cyntaf.

Sut y daeth lleoliad Theatr Clwyd i fodolaeth?

Mae Lucy Hall sy’n uwch ddarlithydd cynllunio wedi bod yn meithrin perthynas â’r theatr ac wedi gweithio ochr yn ochr â Theatr Clwyd i greu’r cyfle anhygoel hwn ar gyfer myfyriwr cynllunio trydedd flwyddyn. Mae hyfforddeiaeth 18 mis yn syth ar ôl graddio yn gyfle anhygoel.

Sut mae astudio yn CBCDC wedi helpu gyda’r swydd?

Mae wedi rhoi hyder i mi. Mae’r cwrs cynllunio wedi rhoi’r cyfle i mi archwilio llawer o wahanol lwybrau, megis adeiladu golygfeydd, cynllunio, gwisgoedd a phypedwaith, felly rwy’n teimlo wedi fy hyfforddi’n llawn. Fe wnaeth y cwrs fy rhoi mewn sefyllfa lle roeddwn i’n teimlo’n barod ar gyfer y diwydiant. Mae dal gen i lawer i’w ddysgu, ond mae angen i mi wneud hynny yn y byd go iawn!

Cyn y radd hon fyddwn i ddim wedi dychmygu y byddwn yn teimlo’n barod i weithio yn y diwydiant theatr, ond erbyn diwedd y cwrs, doeddwn i ddim yn gallu aros i ddechrau fy swydd gyntaf. Cael y cyfle i gynllunio sioe a fyddai’n cael ei gwireddu ar ddiwedd fy nhrydedd flwyddyn, gweithio ochr yn ochr â chyfarwyddwr o’r diwydiant (yn fy achos i, y rhyfeddol Zoe Templeman-Young) oedd yr anogaeth olaf oedd ei angen arnaf. Gwnaeth y profiad fi’n hyderus yn fy angerdd am gynllunio ac roedd dod yn gynllunydd ‘proffesiynol go iawn’ yn teimlo o fewn fy nghyrraedd.

Llun cynhyrchiad o Indecent

Beth fyddwch yn ei wneud fel rhan o’r hyfforddeiaeth?

Mae’r hyfforddeiaeth yn fy ngalluogi i ddilyn fy niddordebau a’m ffocws penodol fy hun, felly byddaf yn gweithio yn y gwahanol adrannau creadigol yn y theatr dros y 18 mis (ar draws meysydd golygfeydd a gwisgoedd). Mae Theatr Clwyd yn un o ddim ond pedair theatr yn y DU sy’n dal â’i chwpwrdd dillad a’i gweithdy ei hun felly byddaf yn cael yr holl brofiad sydd ei angen arnaf ar y safle.

Byddaf yn cynorthwyo cynllunwyr ar wahanol sioeau a gynhyrchir gan y Theatr, yn ogystal â chael cyfle i gynllunio sioe fy hun.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?

Creu cysylltiadau – a chael y cyfle i weithio gyda gwahanol gynllunwyr a gweithwyr creadigol. Mae’n deimlad cyffrous i fod yn cwrdd â chymaint o bobl o’r diwydiant a chael y cyfle i weld sut maen nhw i gyd yn gweithio ac i ddysgu ganddynt. Ni allaf aros i gael y cyfle i gynllunio fy sioe. Rwy’n gobeithio cydweithio â’r hyfryd Juliette Manon, cyfarwyddwraig dan hyfforddiant yn Theatr Clwyd.

Millie a chi’r gweithdy, Ned

Beth yw eich uchafbwyntiau hyd yma:

Roedd cynorthwyo gyda’r golygfeydd ar The Famous Five yn ffordd wych o ddechrau’r swydd, gan ei bod yn sioe gerdd newydd gyda chast gweddol ifanc. Roedd yn gyffrous cael gweithio ar fy sioe broffesiynol gyntaf. Mae’r adran golygfeydd (Katy Salt a Kelly Selvester) yn anhygoel ac wedi bod yn hynod groesawgar, ac rydw i eisoes wedi dysgu cymaint. Rydw i wedi dod yn llawer mwy hyderus yn fy sgiliau peintio golygfeydd – wrth fy modd gyda fy mrwsh Purdy fy hun!

Cefais fynd â’r sioe ar daith a’i gweld yn symud o Ogledd Cymru i Gaerfuddai, a oedd yn gyfle gwych. Fi oedd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i olygfeydd y set, yn ogystal â gwneud gwaith cynnal a chadw ar rai o’r propiau. Mae llawer iawn o bropiau yn y sioe hon, felly roedd angen llawer o ofal ohonynt, gwaith atgyweirio ar bropiau a oedd yn cynnwys castell Kirrin ac awyrennau papur.

Ar hyn o bryd rwy’n gynorthwyydd golygfeydd ar y panto ac yn mwynhau’r holl gliter. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at poly-gerfio ceffyl… gobeithio y bydd mwy o gliter yn rhan o’r gwneud!

Beth ydych chi wedi’i ddysgu hyd yn hyn? A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar ein cyfer?

Dangoswch barodrwydd a byddwch yn frwdfrydig! Po fwyaf agored ydych chi i gyfleoedd newydd, y mwyaf y mae pobl yn fodlon eich helpu a gweithio gyda chi. Rydw i eisoes wedi dysgu llawer drwy ond gwrando a sgwrsio â nifer o gydweithwyr yn y diwydiant am eu profiadau, a fydd yn fy helpu i ddod yn well cynllunydd yn yr hirdymor. Mae bod yn barod i deithio hefyd yn eithaf pwysig. Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf yn gweithio yn Theatr Clwyd fe es i Lundain i gwrdd â chynllunydd set a chast The Famous Five a gweld y sioe mewn rihyrsal. Rhoddodd hyn fewnwelediad gwych i mi o’r holl broses o roi sioe broffesiynol at ei gilydd.

Gallwch ddarganfod mwy am Millie ar ei gwefan yma: lamkindesign.com

Partneriaeth CBCDC gyda Theatr Clwyd

Gweithiodd CBCDC, fel aelod o Stage Sight, mewn partneriaeth â Theatr Clwyd i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth mewn rolau oddi ar y llwyfan yn y diwydiant celfyddydau perfformio a chwarae rhan mewn cyfrannu at greu gweithlu oddi ar y llwyfan sy’n adlewyrchu’n well gymdeithas yr unfed ganrif ar hugain ac sy’n fwy cynhwysol. Drwy ddarparu cymorth ariannol am gyfnod estynedig drwy addysg a datblygiad proffesiynol rydym yn gobeithio cael gwared ar rai o’r rhwystrau economaidd sy’n wynebu darpar fyfyrwyr a dangynrychiolir yn y diwydiant.

Storïau eraill