Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Llwyddiant Cynllunio: Chwech o raddedigion CBCDC yn rownd derfynol Gwobr Linbury – unwaith eto!

Mae graddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi sicrhau chwech allan o’r 12 lle a chwenychir yn fawr yn rownd derfynol Gwobr Linbury am Gynllunio Llwyfan.

Hon yw gwobr cynllunio fwyaf nodedig y byd ar gyfer doniau sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r canlyniad ar gyfer 2021 yn pwysleisio hanes da rhyfeddol CBCDC. O’r 48 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ystod pedair blynedd ddiwethaf Gwobr Linbury, mae tua hanner ohonynt – 23 – wedi bod yn gynllunwyr ifanc gwych o bwerdy CBCDC.

Y graddedigion o CBCDC sydd wedi cyrraedd rownd derfynol 2021 yw:

Blythe Brett

Petros Kourtellaris

Tomas Palmer

Valentine Gigandet

Daniel Southwell

Jiayi Liu

Byddant yn derbyn £4000 a’r cyfle i weithio gyda chynllunydd sefydledig i gael profiad ymarferol o gynhyrchiad.

'Mae ein myfyrwyr Cynllunio yn dalentog dros ben, ac mae’r llwyddiant rhagorol yng Ngwobr Linbury 2021 yn brawf o hynny.'
Sean CrowleyMeddai’r Cyfarwyddwr Drama a Phennaeth Cynllunio

Y chwech eleni yw’r ychwanegiadau diweddaraf at restr drawiadol o raddedigion CBCDC i gyrraedd y rownd derfynol ac sy’n gwneud argraff yn y diwydiant.

Mae’r rhain yn cynnwys cyd-enilydd 2019 Rose Revitt, y bydd ei gosodiad cyhoeddus The Tree yn cael ei arddangos yn y National Theatre o fis Ionawr 2022, ac enillydd 2007 Tom Scutt sydd ar hyn o bryd yn cyfarwyddo cynllunio set a gwisgoedd ar gyfer Cabaret.

Darganfod mwy am y Gwobr Linbury

Storïau eraill