Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cenhadaeth Ddinesig: CBCDC yn gweithio gyda’r gymuned

Fel rhan o Genhadaeth Ddinesig y Coleg i ymgysylltu â gwahanol gymunedau, mae Hynafiaid Windrush Race Council Cymru wedi bod yn defnyddio’r cynllun Credydau Amser Tempo er mwyn gallu mwynhau rhai o’n cynyrchiadau. Mae ein Partner Ymgysylltu â Chymunedau, Guy O’Donnell, yn sôn rhagor wrthym am brosiect y Genhadaeth Ddinesig:

Prosiect Cenhadaeth Ddinesig - Credydau Amser Tempo

Mae un o’n prosiectau Cenhadaeth Ddinesig yn ymgysylltu â chymunedau sy’n draddodiadol heb gael fawr o gyfleoedd i brofi gweithgareddau diwylliannol. 

Mae gwirfoddoli drwy rwydwaith Credydau Amser Tempo yn cyfnewid yr amser hwnnw am Gredydau Amser i’w gwario ar docynnau ar gyfer perfformiadau. Drwy’r bartneriaeth hon mae CBCDC yn helpu cymunedau i brofi ac ymgysylltu â gweithgarwch diwylliannol, a hefyd yn mynd i’r afael â thlodi.

Cyfeillion y Coleg – Hynafiaid Windrush Cymru

Daw’r Hynafiaid o wahanol ardaloedd ledled De Cymru a chaiff y grŵp ei arwain gan Mrs Roma Taylor a’i gydlynu gan Race Council Cymru (RCC). 

Mae’n grŵp rhagweithiol o dros 65 o Hynafiaid sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o bryderon ac anghenion hynafiaid o leiafrifoedd ethnig tra’n dathlu cerrig milltir allweddol a nodi cyfraniadau pobl o dras Affricanaidd.

Mae’r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol, fel arfer yn y Coleg, i fwynhau cwmni ei gilydd a byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol o amgylch Cymru. Mae cydweithwyr y Coleg a Race Council Cymru yn darparu cymorth a chyfleusterau cyfarfod i’r grŵp sy’n defnyddio CBCDC fel hyb cymunedol.

Maent yn gweithio gyda ni drwy roi adborth a mewnbwn i’r perfformiadau sydd ein Rhaglen. Mae ystod o gydweithwyr a myfyrwyr o’r Coleg wedi rhoi cyflwyniadau i’r grŵp er mwyn meithrin dealltwriaeth o waith y Coleg a datblygu cysylltiadau â Chymuned Windrush.

Cyd-gefnogaeth a budd

Mae perfformiadau cyhoeddus yn ganolog i ddysgu myfyrwyr, yn ogystal â deall ystod amrywiol o gynulleidfaoedd a’u hanghenion.

Rydw i wedi bod yn gweithio gydag RCC a Hynafiaid Windrush Cymru i weld sut y gallwn helpu ein gilydd. Maent yn ennill dau Gredyd Amser Tempo pan fyddant yn gwirfoddoli eu hamser fel rhan o’u cyfarfodydd wythnosol, gan gefnogi eu cymuned. Mae’r rhan fwyaf o’r grŵp wedi defnyddio eu credydau i weld perfformiad yn y Coleg.

Gan y byddai cost ariannol tocynnau yn rhwystr i lawer o’r Hynafiaid, mae’r cydweithio hwn o fudd i bawb sy’n rhan o’r prosiect.
Guy O'DonnellPartner Ymgysylltu A Chymunedau
Myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio yn arddangos eu gwaith yn y Sioe Gelf Wisgadwy flynyddol

Gan ddefnyddio eu Credydau Amser, mae’r Hynafiaid wedi gweld opera, drama a cherddoriaeth glasurol. Maent hefyd wedi dod â’u hwyrion a’u hwyresau i weld Celf Gwisgadwy, y sioe wisgoedd sydd wedi’i chreu a’i pherfformio gan fyfyrwyr 

Cynllunio ar gyfer Perfformio, gan gyflwyno talent yfory o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i’r Coleg, a’u hysbrydoli ar gyfer posibiliadau o ran gyrfa yn y dyfodol yn y diwydiannau creadigol.

Gwneud y gorau o Gredydau Amser Tempo

Rydym yn falch o fod yn rhan o rwydwaith Credydau Amser Tempo. Gall aelodau’r rhwydwaith wario eu Credydau Amser ar lawer o’r perfformiadau a gynhelir yn y Coleg.

Mae Karen a Linda yn sefyll o flaen desg derbynfa’r Coleg, yn dangos eu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, yn ogystal â’u cerdyn pas Credyd Amser Tempo.
‘Ers dod i CBCDC rydym wedi cael cyfle gwych i ennill Credydau Amser Tempo drwy wirfoddoli ein hamser i gefnogi ein grŵp, Hynafiaid Windrush Cymru RCC. Mae hyn wedi agor y posibilrwydd o ddefnyddio credydau fel taliadau ar gyfer gwahanol bethau megis sioeau theatr neu fynd i ganolfannau hamdden.

Yn CBCDC rydym wedi gweld Abel Selaocoe y chwaraewr soddgrwth jazz, ddwywaith, fis Rhagfyr diwethaf fel rhan o bedwarawd ac yna eto fel rhan o gerddorfa o feiolinwyr a chwaraewyr soddgrwth. Roeddem yn meddwl bod y ddau berfformiad yn syfrdanol a gwnaethom fwynhau pob munud. Roedd gallu mynychu’r perfformiadau hyn a chael eich cynnwys gyda chyfranogiad cynulleidfa Abel mor hyfryd.

Roeddem yn teimlo ein bod yn cael ein cludo i’w wlad enedigol, De Affrica! Rydym yn edrych ymlaen at ragor o berfformiadau yn CBCDC yn y dyfodol.’
Karen and LindaHynafiaid Windrush ac aelodau Credydau Amser Tempo

Mae gweithio gyda Hynafiaid Windrush wedi golygu y gall CBCDC ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd nad ydynt efallai fel arfer yn ymwybodol o’n gwaith. Mae’r grŵp wedi arwain y ffordd i dreialu gweithgaredd gwirfoddoli yn y Coleg. Rydym yn treialu cynllun gwirfoddoli myfyrwyr fel rhan o rwydwaith Credyd Amser Tempo y tymor hwn.

Mae’r Hynafiaid yn dod yn archebwyr annibynnol hyderus drwy’r system Tempo ac wedi archebu ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau CBCDC, yn ogystal ag ymweliadau â champfeydd neu ddigwyddiadau chwaraeon!

Rhai o Hynafiaid Windrush yn dangos eu copïau o’r Rhaglen

Windrush Cymru – ein lleisiau, ein straeon, ein hanes

Fis Tachwedd diwethaf cynhaliodd CBCDC ‘Windrush Cymru – ein lleisiau, ein straeon, ein hanes’ yn y Coleg, fel rhan o daith yr arddangosfa, a oedd hefyd yn cynnwys y Senedd a’r Amgueddfa Genedlaethol. Ymatebodd y prosiect, a’r arddangosfa ddilynol, yn uniongyrchol i alwad gan Hynafiaid Cenhedlaeth Windrush a oedd am sicrhau bod etifeddiaeth eu cenhedlaeth yn cael ei nodi a’i chadw ar gyfer y dyfodol. 

Rhan o freuddwyd cymaint o Hynafiaid fel Mrs Betty Campbell MBE, oedd rhannu’r straeon hyn er mwyn sicrhau ‘nad yw ein hetifeddiaeth yn cael ei hanghofio.’

Storïau eraill