Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Taith emosiynol: bod yn gerddor gydag Anhwylder Personoliaeth Ffinio

Ella Pearson ydw i. Graddiais mewn cerddoriaeth o CBCDC ac erbyn hyn rwy’n astudio am radd meistr mewn cor anglais a’r obo. Rydw i hefyd yn is-lywydd lles Undeb y Myfyrwyr. Yn 18 oed cefais ddiagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD). Ysgrifennais am hyn ar gyfer colofn iechyd meddwl a lles cylchgrawn Music Teacher.

Yn 18 oed cefais ddiagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD). Mae’n gyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar bob agwedd ar fy mywyd, a nodweddir gan hwyliau dwys ac anrhagweladwy, perthnasoedd ansefydlog, ymddygiad byrbwyll, ac aflonyddwch o ran canfyddiad neu feddwl. Mae’n gyflwr eang.

Dros fy mhedair blynedd yn CBCDC, yn gweithio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr y Coleg, rydw i wedi dod i ddeall fy hun a’r cyflwr yn well, ac wedi dod o hyd i ffyrdd o rymuso fy chwarae a fy mywyd y tu allan i gerddoriaeth.

Taith emosiynol

Symptom amlycaf BPD yw methu â rheoli fy emosiynau. Felly, mae fy hwyliau da gyda’r gorau posibl, mae fy adegau gwael yn isel dros ben, ac anaml y bydd unrhyw dir canol.

Wrth gwrs, mae hyn yn cael effaith enfawr ar fy ngherddoriaeth - er nad yw’r cyfan yn negyddol.

Dod o hyd i gymorth a chefnogaeth

Mae fy niagnosis yn golygu fy mod yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl, sy’n ariannu mentora wythnosol drwy gydol fy amser yma. Mae’r sesiynau hyn wedi bod yn fuddiol dros ben, gan ddod â’m meddyliau a’m syniadau at ei gilydd, a gweithio i’m helpu i strwythuro fy mywyd Coleg i ganiatáu ar gyfer y cyfnodau anodd. Mae’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr wedi bod yn wych ac wedi helpu’n fawr i’m cadw ar y trywydd cywir – alla’i ddim diolch digon iddynt.

Mae dull cyfannol y Coleg at iechyd meddwl yn golygu bod pob agwedd ar fy nysgu a’m datblygiad yn cael eu cefnogi. Er enghraifft, mae fy Mhennaeth Adran, Rob Plane, yn gweithio gyda mi os oes addasiadau rhesymol a all fy nghefnogi (mae pob myfyriwr yn cael cyfarfod tymhorol gyda’u Pennaeth Adran i edrych ar eu cynnydd a thrafod eu hanghenion), ac mae fy athrawon yn gwybod sut i’m cadw i ddysgu pan fyddai’n cael amser anodd.

Ella yn perfformio yn Dialogue of the Carmelites

Fy mhecyn cymorth BPD

Mae creadigrwydd ac iechyd meddwl yn aml yn mynd law yn llaw a, gan mai coleg celfyddydau yw hwn, mae pawb yn deall y pwysau a’r anawsterau y gallwn ni gyd eu teimlo.

Pan ddes i’r Coleg teimlais ar unwaith bod yr awyrgylch yn un cefnogol iawn a, thrwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr, roeddwn yn gwybod bod cymorth ar gael i mi. Maent wedi fy helpu i ddatblygu pecyn cymorth cefnogol i droi ato pan fydd ei angen arnaf.

Dywedais wrth fy ffrindiau yma am fy nghyflwr yn gynnar iawn, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi’i wneud o’r blaen, oherwydd roeddwn yn teimlo mor hyderus y byddent yn deall - mae myfyrwyr CBCDC ymhlith rhai mwyaf caredig a mwyaf deallgar sydd i’w cael.

Mae ymgyrchoedd UM ar les ac iechyd meddwl hefyd yn eich gwneud chi’n ymwybodol o wahanol anghenion a phrofiadau, felly mae pawb yn ymwybodol bod angen i ni gyd gefnogi ein gilydd.

Yr ochr gadarnhaol - cysylltu â’r gerddoriaeth

Nid yw popeth yn negyddol. Mae bod mewn cysylltiad mor ddwfn â fy emosiynau yn arwain at gysylltiad pwerus, dwys â theimlad cerddoriaeth.

Yn fwyaf diweddar, cefais yr ‘oleuedigaeth gerddorol’ hon wrth chwarae ar gyfer opera ddiweddaraf CBCDC, ‘Dialogues of the Carmelites’, lle cefais y cyfle i ddod allan o’r gerddorfa a chwarae unawd teimladwy ym mlaen y llwyfan; Ni allaf bwysleisio pa mor rymusol oedd y teimlad o dorcalon, ewfforia, a gwerthfawrogiad drwy gydol yr opera.

I mi, mae hyn yn gwneud yn iawn am holl isafbwyntiau ofnadwy BPD – mae mor werth chweil pan gewch brofiad o lawenydd pur cerddoriaeth yn ei ffurf fwyaf dwys.

Felly, i unrhyw gyd-gerddorion gyda BPD: daliwch ati. Mae cymaint i’w ennill, cymaint o lawenydd i’w brofi.

Credwch chi fi.

Ella yn perfformio yng nghynhyrchiad y Coleg o Dialogue of the Carmelites

Storïau eraill