Neidio i’r prif gynnwys

Newyddion

Datganiad ar achos sifil Feder and McCamish v RWCMD, gan y Prifathro, yr Athro Helena Gaunt

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 05/10/2023

'Nid oes dim yn bwysicach i ni na chadw ein myfyrwyr yn ddiogel. Mae’n ddrwg gennym fod y merched a fu’n ymwneud â’r achos hwn wedi'u brifo gan agweddau o’r ffordd yr ymatebodd y Coleg i’w cwynion.

Ers 2017, rydym wedi trawsnewid sut rydym yn ymateb i ddatguddiadau sensitif, sut rydym yn ymdrin â chwynion neu bryderon a sut rydym yn cefnogi a diogelu ein myfyrwyr.

Mae prifysgolion a’r diwydiannau theatr/ffilm wedi gwneud newidiadau gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ymwneud â llawer o’r materion a gododd yn yr achos hwn. Mae hyn yn cynnwys sut mae agweddau heriol o hyfforddiant actor - fel cyswllt corfforol ac agosatrwydd - yn cael eu haddysgu.

Heddiw rydym yn cyhoeddi crynodeb 10 pwynt o newidiadau pwysig rydym wedi’u cyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym hefyd yn benderfynol y byddwn yn CBCDC yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i fod yn fan dysgu diogel a pharchus.

Yn dilyn adolygiad ac ail-ddilysiad sylweddol, mae ein cwrs hyfforddi israddedig i Actorion, gydag arweinyddiaeth newydd wedi dderbyn sgôr boddhad o 100% yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn ddiweddar.

Fyddwn ni byth yn rhoi’r gorau i wrando ar ein staff a’n myfyrwyr a gweithio gyda nhw, a dysgu oddi wrth eraill. Rydym yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod ein Coleg yn un lle mae myfyrwyr yn dysgu ac yn ffynnu, tra’n cael eu herio’n broffesiynol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.'

Gweithio mewn man diogel

Yma yn CBCDC, nid oes dim yn bwysicach i ni na chadw ein myfyrwyr yn ddiogel.

Negeseuon newyddion eraill