Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gweithio mewn man diogel

Yn CBCDC, mae gan bawb hawl i weithio mewn man diogel

Mae’r crynodeb 10 pwynt hwn yn esbonio’r camau rydym wedi eu cymryd, ac yn dal i’w cymryd, i wella, gan weithio bob dydd i ddod o hyd i ffyrdd i gryfhau’r gefnogaeth rydym yn ei chynnig a chadw ein myfyrwyr yn ddiogel. 

  1. Rydym wedi cyflwyno system adborth gyfrinachol newydd. Mae’n golygu heddiw y gall myfyrwyr a staff gofnodi pryder ar unrhyw adeg, ac yn ddienw os yw’n well ganddynt. Mae hyn hefyd yn cynnig adnoddau cymorth ar unwaith.
  2. Rydym yn rhannu canllawiau clir a syml ar sut i gwyno. Mae’r rhain yn cael eu hegluro i fyfyrwyr fel rhan hanfodol o broses sefydlu myfyrwyr ac yn cael eu hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn. I fyfyrwyr sy’n ymwneud â chwyn ffurfiol, rydym wedyn yn gwneud yn siŵr eu bod yn deall yn glir beth yw eu hopsiynau ar bob cam.
  3. Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn cwyn neu honiad rydym yn sicrhau ar unwaith bod unrhyw un sy’n gysylltiedig yn ddiogel a bydd cymorth hyfforddedig yn ei le drwy gydol y broses. Rydym bob amser yn cynnwys arbenigwyr annibynnol lle y bo’n briodol.
  4. Rydym yn gwella ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr proffesiynol o fentoriaid a thiwtoriaid yn barhaus, i sicrhau ein bod yn cynnig ystod o sgiliau arbenigol. Yn 2020, gwnaethom greu rôl newydd, Swyddog Llais Myfyrwyr, sy’n eiriol dros fyfyrwyr.
  5. Rydym yn sicrhau bod gennym ddull systematig ar gyfer hyfforddiant mewn polisi a gweithdrefnau i bob cydweithiwr ar draws y Coleg.
  6. Fel rhan o’r broses sefydlu, rydym yn cyflwyno myfyrwyr a staff i egwyddor sy’n greiddiol i ni: parch. Mae hyn yn ganolog i’n cymuned. Mae gan bawb hawl i weithio mewn man diogel, ac rydym yn atgyfnerthu hyn bob dydd. Rydym hefyd yn cynnal sesiwn wedi’i chyflwyno’n broffesiynol i fyfyrwyr ar gydsyniad ac ymddygiad rhywiol, gan gynnwys ffiniau a’r cymorth sydd ar gael.
  7. Rydym yn datblygu offer cyfathrebu arbenigol i gefnogi sgyrsiau dydd i ddydd anodd, ac mae bron i 40 aelod staff wedi cymhwyso mewn ymarfer adferol.
  8. Ers 2020, rydym wedi cyflwyno canllawiau clir newydd ynghylch Cysylltiad Agos ac Agosatrwydd mewn gwaith addysgu a chynhyrchu, a grëwyd gydag arbenigwyr allanol blaenllaw.
  9. Rydym bellach yn hyfforddi staff mewn ymarfer cynhwysol a gwaith agosatrwydd, i sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn ddiogel.
  10. Rydym wedi lansio digwyddiad panel rheolaidd, ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr, i annog deialog agored ar bynciau anodd a sensitif.