Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Cyhoeddi Michael Plaut OBE yn Gadeirydd newydd CBCDC

Mae Michael Plaut OBE wedi’i benodi’n Gadeirydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gymryd yr awenau oddi wrth John Derrick sy’n ymddiswyddo ar ôl cwblhau ei dymor llawn yr haf hwn.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 01/08/2023

Yn gyn Gadeirydd CBI Cymru, arweinydd busnes o Gymru yw Michael sydd hefyd yn gefnogwr brwd y celfyddydau ac mae ganddo brofiad byd-eang eang. Mae’n ddylanwadol ym maes llunio polisi cyhoeddus a gofynnir am ei gyngor busnes gan lywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd. Gyda gwybodaeth helaeth am sefydliadau masnachol a rhai nid er elw, dechreuodd ei yrfa fel bancwr buddsoddi yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru i redeg busnes. Trwy wahoddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cadeiriodd Adeiladu Cymru Fwy Llewyrchus, adroddiad ar economi Cymru i Lywodraeth y DU, ac mae ganddo OBE am wasanaethau i fusnes ac entrepreneuriaeth.

Yn ymuno ag ef hefyd ar y Bwrdd mae dau Gyfarwyddwr sydd newydd eu penodi, Sarah Alexander a Helen Sanderson, y ddwy yn dechrau yn eu rolau ym mis Awst. Maent yn dilyn penodiadau April Koyejo-Audiger, Ian Lewis, Tianyi Lu, David Ruebain a Nitin Sawhney CBE yn aelodau Bwrdd ym mis Ionawr eleni.

Fel Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig y Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol, mae Sarah Alexander OBE wedi tyfu’r sefydliad o fod yn gweithio gyda 164 o bobl ifanc i un sy’n cyrraedd 10,000 o rai yn eu harddegau, gan agor mynediad i bobl ifanc o bob cefndir. Bellach caiff ei dathlu’n eang fel cerddorfa orau’r byd ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Treuliodd Sarah flynyddoedd lawer yng Nghymru yn arwain adran addysg Opera Cenedlaethol Cymru ac mae wedi ennill gwobrau mawreddog gan Gymdeithas Cerddorfeydd Prydain a’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ymhlith eraill. Daeth Sarah yn Gymrawd Er Anrhydedd y Coleg yn 2022.

Mae Helen Sanderson yn ymuno fel cynrychiolydd a etholwyd gan gydweithwyr CBCDC y Bwrdd. Yn berfformiwr, addysgwr, trefnydd, cyfansoddwr ac entrepreneur creadigol, hi yw Pennaeth Perfformio Gitâr y Coleg. Gyda gyrfa berfformio ryngwladol yn canolbwyntio ar gerddoriaeth siambr, sefydlodd yr elusen addysg cerddoriaeth, Guitar Circus, sef cartref yr Ensemble Gitâr Ieuenctid Cenedlaethol a Gŵyl Gitâr Ieuenctid y Byd y mae’n Gyfarwyddwr Artistig arni.

‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru weledigaeth glir a chymhellol ar gyfer ei ddyfodol, ac ethos pwerus o rymuso rhagoriaeth. Fel pwerdy ar gyfer y diwydiannau creadigol, mae Cymru - bach ond nerthol - yn fagned rhyngwladol gydag adnoddau naturiol aruthrol o dalent.

Rwy’n credu bod hwn yn sefydliad sydd â’r potensial i wneud newid gwirioneddol, i drawsnewid bywydau a chysylltu cymunedau, ac rwy’n edrych ymlaen at ei arwain i’w flwyddyn o dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed a thu hwnt i hynny.'
Michael Plaut OBEGadeirydd newydd, CBCDC
‘Rydw i wrth fy modd, ar ôl chwe blynedd, i fod yn trosglwyddo rôl y Cadeirydd i Michael Plaut sydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfle sylweddol sydd gan y Coleg i ehangu a thyfu ei addysg o’r radd flaenaf a’r celfyddydau yng Nghymru.

Mae hon yn bennod newydd gyffrous gydag adeilad newydd o bwys i’w ddatblygu yng Nghaerdydd, ac mae Michael mewn sefyllfa dda o ystyried ei brofiad yn y CBI ac mewn busnes i gynorthwyo gyda’r cam nesaf o dwf, gan groesawu’r cynwysoldeb a’r ffocws ar ddysgu gydol oes y mae’r Conservatoire yn ei ymgorffori.

Bydd Sarah Alexander a Helen Sanderson yn atgyfnerthu ymhellach ddyfnder a phrofiad y Bwrdd rhagorol a phrofiadol hwn i weithio dan arweiniad Helena i fod yn uchelgeisiol a chyrraedd uchelfannau newydd.’
John DerrickCadeirydd presennol, CBCDC
‘Wrth nesau at ein pen-blwydd yn 75 oed yn 2024, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Michael a Bwrdd cyfan CBCDC. Bydd y penodiadau newydd hyn yn ein hymestyn ac yn ein herio mewn ffyrdd newydd cyffrous.

Daw Michael â golwg strategol a byd-eang ynghyd â ffocws cryf ar greu newid ystyrlon i Gymru fel cenedl. Bydd Sarah a Helen yn ychwanegu safbwyntiau artistig ac addysgol ffres a deinamig.

Wrth i ni ffarwelio â John Derrick yn ei rôl fel Cadeirydd, estynnwn ein diolch didwyll iddo am ein llywio mor dda drwy’r chwe blynedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen at y bennod nesaf pan fyddwn yn gwybod y bydd yn cadw cysylltiad agos â ni.‘
Helena GauntPrifathro, CBCDC

Nodiadau i olygyddion

Mae rolau’r Cadeirydd a’r Bwrdd yn rhai heb gydnabyddiaeth ariannol, am gyfnod o dair blynedd. Mae pob Cyfarwyddwr Bwrdd hefyd yn Ymddiriedolwr elusen Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a phenodir y Cadeirydd hefyd yn Llywodraethwr Prifysgol De Cymru.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd rhwng Parc Bute a Ffordd y Gogledd, yn un o wyth o golegau ac ysgolion drama Brenhinol y DU ac mae wedi bod yn darparu hyfforddiant addysg uwch arbenigol ym meysydd cerddoriaeth a drama ar y lefel uchaf ers bron i 75 o flynyddoedd. Rydym yn hyfforddi drwy berfformiadau, arddangosfeydd a chydweithio â diwydiant, ac yn gweithio i fodel nodedig sy’n trin ein myfyrwyr, sy’n dod o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol, fel gweithwyr proffesiynol ifanc o’r eiliad y maent yn cyrraedd Caerdydd, gan ymgysylltu’r cyhoedd yn eu gwaith ar bob cyfle, a’u cefnogi i gyd-greu cyfnodau preswyl mewn lleoliadau cymunedol amrywiol.

Wedi’n hysbrydoli gan bosibiliadau perfformiad ac amrywiaeth greadigol, rydym yn hyrwyddo cydweithredu ac yn grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau. Mae angerdd a chrefft yn cydblethu â phrofiad a chwarae i ddyrchafu, procio, gwthio a thrawsnewid.

Negeseuon newyddion eraill