Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau am fynediad i’r Conservatoire Iau ym mis Medi 2022 yn agored ac yn rhad ac am ddim nes bydd rhybudd pellach *.
Mae CBCDC yn ofod i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir a/neu anabledd. Byddai ein tîm yn falch iawn o ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein cyrsiau neu’r broses ymgeisio ac i drafod unrhyw ofynion ychwanegol sydd gennych.
Gwneir ceisiadau ar-lein a thrwy glyweliad wedi’i recordio fel a ganlyn:
- Dylai ymgeiswyr ar gyfer pob cwrs wneud cais ar-lein.
- Mae Cerddoriaeth Mini yn gwrs mynediad agored i ddechreuwyr, heb unrhyw ofyniad clyweliad.
- Dylai’r rhai sy’n gwneud cais am y Cwrs Uwch, Cerddoriaeth yn Gyntaf, a Gwersi Cymunedol gyflwyno recordiad fideo i’w adolygu, gan ddilyn y canllawiau clyweliad sydd ar gael yma.
Fel canllaw, gofynnir i ymgeiswyr iau ar gyfer y Cwrs Uwch (e.e., y rhai ym Mlwyddyn 7 ac is) ddangos profiad chwarae o tua lefel Gradd 5. Gofynnir lefel uwch i fyfyrwyr hŷn. Efallai y bydd angen llai o brofiad ar offerynnau sy’n cael eu cychwyn yn hŷn, e.e., obo, baswn, corn, trombôn, tiwba, fiola, a bas dwbl. Dylai cantorion fod yn 11 oed neu’n hŷn.
Bydd ymgeiswyr ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth Cadetiaid Peterson wedi cyrraedd lefel chwarae o oddeutu Gradd 5 erbyn CA3.
Gofynnir i ymgeiswyr Cerddoriaeth yn Gyntaf ddangos profiad chwarae o lefel Gradd 1 neu’n uwch.
Mae croeso i chwaraewyr a chantorion ar bob lefel wneud cais am Wersi Cymunedol.
I gyflwyno eich clyweliad, cwblhewch ac anfonwch y ffurflen uchod, yna e-bostiwch eich dolen clyweliad fideo i junior.conservatoire@rwcmd.ac.uk. Marciwch eich e-bost ’Preifat a Chyfrinachol’.
* Efallai na fydd ceisiadau a dderbynnir ym mis Medi yn cael eu prosesu’n llawn tan hanner tymor mis Hydref. Felly mae’n bosibl na fydd rhai elfennau o’r cwrs ar gael tan y flwyddyn academaidd ganlynol (e.e., cerddoriaeth siambr). Cysylltwch â ni wrth wneud eich cais i wirio.