Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Cyfarwyddo Opera

  • Dyfarniad:

    MA Cyfarwyddo Opera

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    14 mis llawn amser

  • Cod y cwrs:

    750F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Mae ein cwrs sy’n cael ei fentora’n llawn yn cynnwys hyfforddiant arbenigol wedi’i deilwra, profiad o gyfarwyddo ein prosiectau operatig a lleoliad yn y diwydiant.

Trosolwg o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn y cyntaf o’i fath yn y DU, ac mae’n darparu hyfforddiant wedi’i deilwra’n arbennig sy’n cynyddu eich sgiliau yn barod ar gyfer rôl broffesiynol fel cyfarwyddwr opera.

Mae’r mentoriaid yn diwtoriaid sy’n weithwyr proffesiynol o bob rhan o’r diwydiant, a byddwch yn edrych ar yr elfennau allweddol a fydd yn cyfrannu at eich datblygiad artistig a chreadigol – gan gynnwys methodolegau actio, technegau ymarfer, prif ieithoedd canu a symudiadau.

Byddwch hefyd yn archwilio gwahanol ffurfiau, arddulliau a chonfensiynau operatig. Mae ymchwilio i gysylltiadau artistig – fel y broses gynllunio a rôl yr arweinydd – yn rhan o’ch dysgu hefyd.

Mae profiad ymarferol o gyfarwyddo mewn lleoliad cydweithredol yn hanfodol i’ch hyfforddiant. Byddwch yn gweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau creadigol sy’n ymwneud â chynhyrchu opera, gan ymgolli yn y perfformiadau a’r prosiectau niferus sy’n cael eu cynnal yma yn y Coleg – gyda chyfleoedd i gyfarwyddo golygfeydd opera mewnol hefyd.

Byddwch yn arsylwi ar gyfarwyddwyr opera proffesiynol wrth eu gwaith – yma yn y Coleg ac yn Opera Cenedlaethol Cymru – i gael gwell dealltwriaeth o’r diwydiant yn ymarferol ac i ddatblygu eich rhwydwaith o gysylltiadau.

Uchafbwynt eich cwrs yw lleoliad yn y diwydiant, wedi’i negodi’n llawn, gyda chwmni opera proffesiynol yn y DU, lle byddwch yn canolbwyntio ar rôl cyfarwyddwr staff a meysydd arbenigedd cysylltiedig.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Mae eich rhaglen astudio, sydd wedi’i mentora’n llawn, wedi’i theilwra i’ch sgiliau, eich profiad a’ch uchelgeisiau gyrfa penodol – a bydd yn mynd i’r afael â’ch cryfderau a’ch gwendidau o’r dechrau.
  • Drwy gyfres o leoliadau yn Opera Cenedlaethol Cymru (neu dŷ opera arall y cytunwyd arno), cewch gyfle i brofi ac arsylwi ar amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig â gweithio ar gynyrchiadau opera a threfniadaeth cwmnïau. Gallai hyn gynnwys sesiynau briffio gan staff castio, cyllidebu ac amserlennu Opera Cenedlaethol Cymru, er mwyn i chi allu deall y logisteg sy’n gysylltiedig â chynhyrchu opera o’r dechrau i’r diwedd.
  • Mae ein holl bartneriaethau agos â diwydiant yn golygu eich bod nid yn unig yn cael hyfforddiant o’r safon uchaf, ond eich bod yn hyderus bod ein safonau, ein harferion gweithio a’n cwricwlwm yn gyfredol ac yn addas i’r diben.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys gweithwyr proffesiynol adnabyddus yn y diwydiant, gan gynnwys dosbarthiadau meistr gan artistiaid gwadd sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen perfformiadau cyhoeddus. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Byddwch yn gyfrifol am brosiect operatig, gan weithio gyda chast y Coleg i greu perfformiad (mewnol neu gyhoeddus) sy’n bodloni set benodol o amcanion. Bydd cyfarwyddwr proffesiynol yn eich mentora ar draws y prosiect ac yn cynnig cyngor ac adborth ar bob cam o ddatblygiad y prosiect.
  • Yn dilyn hyn, tua diwedd y rhaglen, byddwch yn ymgymryd â lleoliad estynedig gyda mentor gydag un o’n partneriaid yn y diwydiant, i weithio ar gynhyrchiad proffesiynol allanol.
  • Bydd gennych chi’r rhyddid i arbrofi ag amrywiaeth o ddulliau artistig, gan feithrin gallu cyfarwyddo sy’n llawn aeddfedrwydd ac uniondeb creadigol.
  • Byddwch yn cael hyder a rhwyddineb cyd-destunol ac arddull sy’n sail i berfformiad, yn ogystal â dysgu’r ystyriaethau ar gyfer gweithio mewn operâu mewn gwahanol ieithoedd.
  • Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o arferion, safonau a gofynion proffesiynol y sector, er mwyn i chi allu symud ymlaen yn hyderus i rôl yn y diwydiant ar ôl graddio.
  • Mae cydweithio yn rhan annatod o’n hamgylchedd dysgu. Gallech fod yn gweithio ar brosiectau perfformio ochr yn ochr â myfyrwyr o’n cyrsiau MA Opera neu mewn cynyrchiadau cyhoeddus gyda’r myfyrwyr hynny ar ein cyrsiau gradd. Mae'r cydweithio hwn yn cynnig cipolwg i chi ar ddisgyblaethau eraill ac yn gallu annog partneriaethau creadigol sy’n gallu para am oes.
  • Er mwyn eich paratoi i fod yn gerddor hyblyg a chyflogadwy, rydym yn cynnig nifer o seminarau yn ystod eich cwrs sy’n ymdrin ag amrywiaeth o sgiliau cyflogadwyedd.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf