Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Struan Leslie

Rôl y swydd: Pennaeth Symud

Adran: Actio

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Mae Struan Leslie wedi bod yn creu theatr a pherfformio ar sail symud am fwy na 35 mlynedd yn ogystal ag addysgu a hyfforddi ar y lefel uchaf. Mae’n cynnwys dramâu o gyfnodau hynafol, modern cynnar a chyfoes, syrcas, oratorios ac operâu ynghyd â chynyrchiadau a gweithiau dawns y mae wedi’u creu ei hun. Mae wedi addysgu fel ymarferydd a chyfarwyddwr ym mhob un o conservatoires Drama y Deyrnas Unedig.

Ef oedd y Pennaeth Symud gwreiddiol yn The Royal Shakespeare Company rhwng 2008 a 2014. Yn ogystal ag ar y llwyfan, mae gwaith Struan wedi’i weld ar deledu ac mewn ffilmiau. Mae erthyglau wedi’u cyhoeddi’n helaeth am ei waith a’i ymarfer.

Arbenigedd

Mae dulliau addysgu Struan yn seiliedig ar ei brofiad helaeth o greu ar gyfer perfformwyr a pherfformiadau.

Mae ymarfer addysgu Struan yn seiliedig ar dros 35 mlynedd o archwilio ac ymchwil ar sail ymarfer ym maes creu theatr. Datblygodd y gwaith yma o’i hyfforddiant fel dawnsiwr a choreograffydd yn y Deyrnas Unedig (London Contemporary Dance School – 1982-85) ac UDA (Naropa Institute).

Mae ymarfer Struan yn lluosogaethol ac yn seiliedig ar symudiad pur wedi’i gymhwyso mewn ffordd benodol a thrylwyr sy’n galluogi i’r perfformiwr ymateb i’r broses greadigol â pherchnogaeth.

Mae wedi cydweithio’n helaeth â llawer o’r cyfarwyddwyr uchaf eu parch yn y Deyrnas Unedig.

Dros gyfnod o 15 mlynedd, roedd yn Gyfarwyddwr Symud a choreograffydd ar ryw 35 o gynyrchiadau a gyfarwyddwyd gan yr hybarch Katie Mitchell gan gynnwys cynyrchiadau arloesol o ddramâu hynafol Groeg yn y National Theatre yn ogystal ag Operâu ac Oratorios yn Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae Struan wedi cydweithio â chyfarwyddwyr gan gynnwys Neil Bartlett, Roxanna Silbert, Michael Boyd, Gregory Doran, Nicholas Hytner, James Dacre, Dominic Hill a Phillip Howard.

Cynhyrchwyd ei waith gan theatrau yn cynnwys National Theatre Llundain, The Royal Shakespeare Company, Dundee Rep, Traverse Caeredin, Citizens Theatre Glasgow, Chichester Festival Theatre, Donmar, Theatre for a New Audience, Efrog Newydd, American Repertory Theatre, Teatro Piccolo Milan, Theater Bielefeld.

Cyflawniadau Nodedig

Struan oedd y Pennaeth Symud gwreiddiol yn The Royal Shakespeare Company rhwng 2008 a 2013, gan greu’r symud a’r coreograffi ar gyfer dros 100 o gynyrchiadau.

Ers dros 20 mlynedd, bu’n gyfarwyddwr ac athro gwadd yn y Gyfadran Celfyddyd Gain a’r Celfyddydau Cymhwysol yn University of Illinois Champaign-Urbana lle bu hefyd yn Artist Gwadd George A. Miller ac athro gwadd Bwrdd y Cynhyrchwyr.

Yn Ohio State University, cyflwynodd Struan Ddarlith Jerome Lawrence and Robert E. Lee Theatre Research Institute 2011-2012.

Dolenni i ymchwil / prosiectau perthnasol

Bu gwaith Struan yn destun ymchwil ysgolheigaidd; Macintosh (2012), Halstead a LaBelle (2019), Tashkiran (2020) a Rodosavlijevic (2020)

Mae meysydd ymchwil Struan yn cynnwys

  • Ysgrifennu a darllen y corff mewn perfformiad
  • Creu a rôl Corws mewn perfformiad; mewn dramâu hynafol a modern, mewn cerddoriaeth fel corau mewn cyngherddau ac operâu
  • Addysgu a hyfforddi perfformwyr
  • Prosesau cyd-greu
  • Natur ymgorffori mewn perthynas â cherddoriaeth

Proffiliau staff eraill