
- Lleoliad:
- Uwch Ddarlithydd mewn Actio
- Cymwysterau:
- MA. Cyfarwyddo Ffuglen. National Film and Television School, y Deyrnas Unedig | MA. Creu Ffilmiau. Dublin Institute of Technology, Iwerddon | BA. Dylunio. National College of Art and Design, Iwerddon
- Adran:
- Acting
- Gwefan:
- IMDB profile
Bywgraffiad Byr
Graddiodd Brendan o’r National Film and Television School (NFTS) yn 2004 gyda London Fields Are Blue, ffilm fer y gwnaeth ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo, ac a enillodd wobrau mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Gwobr y Screen Directors Guild am y ffilm fer orau. Wedi hynny, bu’n gweithio ym maes Drama Deledu, yn cyfarwyddo cynnwys i’r BBC a Channel 4 yn ogystal â pharhau i ddatblygu sgriptiau gwreiddiol. Mae wedi ysgrifennu neu gyd-ysgrifennu mwy na 6 o ffilmiau nodwedd, gan gynnwys Tonight is Cancelled a Get Up & Go a gafodd eu rhyddhau’n fasnachol yn ogystal â chael eu chwarae mewn gwyliau ffilm rhyngwladol. Mae Brendan yn parhau i ysgrifennu a chyfarwyddo.
Arbenigedd
Ac yntau wedi gwasanaethu ar nifer o reithgorau a phaneli ffilm rhyngwladol, mae ganddo ddiddordeb brwd mewn perfformio ac addysg, ac arweiniodd hynny at gwrs unigol i gyfarwyddwyr ifanc yn yr NFTS.