Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Alice White

Rôl y swydd: Pennaeth Llais

Adran: Actio

Anrhydeddau: BA, MA

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad

Yn wreiddiol o Abertawe, hyfforddodd Alice fel actor yng Nghonservatoire Brenhinol yr Alban. Gweithiodd yn broffesiynol y meysydd theatr, teledu a radio am dros ddegawd cyn cwblhau’r cwrs MA Astudiaethau Llais nodedig yn yr Royal Central School of Speech and Drama, gan raddio gyda Rhagoriaeth.

Mae Alice yn angerddol am rymuso myfyrwyr yn eu gwaith actio trwy ymarfer llais. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysgu o safbwynt ffeministaidd croestoriadol i ganiatáu mwy o fynediad a chynhwysiant o fewn hyfforddiant llais.

Arbenigedd

Cyn ymuno â CBCDC bu Alice yn gweithio’n helaeth fel hyfforddwr llais, lleferydd, testun a thafodiaith llawrydd mewn llawer o sefydliadau hyfforddi actorion blaenllaw’r DU, gan gynnwys Conservatoire Brenhinol yr Alban, Royal Central School of Speech and Drama, a Choleg Rose Bruford.

Mae hi hefyd yn gweithio’n rheolaidd fel hyfforddwr llais a thafodiaith ar gyfer cynyrchiadau ac actorion proffesiynol. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys cynyrchiadau yn y National Theatre, Canolfan Mileniwm Cymru, Almeida, Theatr Trafalgar, Theatr Genedlaethol yr Alban, a gyda Channel 4/Clerkenwell Films. Mae Alice yn diwtor cwrs rheolaidd i Gwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg ac mae hefyd wedi bod yn fentor a hwylusydd gweithdai i Open Door.

Proffiliau staff eraill