
Ben Calvert
Is-Ganghellor, Prifysgol De Cymru
Rôl y swydd: Pennaeth Perfformio Drama
Adran: Drama
Anrhydeddau: Cymrawd yr Academi Addysg Uwch MFA Ymarfer Sgrin Uwch (Cyfarwyddo) Rhagoriaeth, Prifysgol y Frenhines Margaret, Caeredin Ôl-radd Actio, Ysgol Theatr Old Vic Bryste MA (Anrhydedd) Seicoleg, Prifysgol Dundee
Addysgwr, hyfforddwr actorion a chyfarwyddwr theatr a sgrin yw Ali de Souza sy’n hanu o Coupar Angus, Swydd Perth, gyda’i wreiddiau teuluol yn Santos, Brasil, lle ganwyd a magwyd ei fam. Cyn ymuno â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ali oedd Cyfarwyddwr Drama Ysgol Theatr Old Vic Bryste ers 2022.
Mae wedi gweithio'n helaeth fel actor a chyfarwyddwr ym meysydd theatr a ffilm ers dros 35 mlynedd gyda llawer o gwmnïau ledled y DU. Bu’n addysgu actio a chyfarwyddo ym Mhrifysgol y Frenhines Margaret am chwe blynedd a daeth yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer BA Actio yno cyn ymuno â Chonservatoire Brenhinol yr Alban fel Pennaeth Cyswllt Actio yn 2008.
Hanfodion Actio, Actio Shakespeare, Cyfarwyddo Theatr, Cyfarwyddo Ffilm, Perfformio i Gerddorion, Techneg Clyweld a Chyfweld, Theatr Gerddorol, Hyfforddiant Actorion ar gyfer y 2020au.
Mae ganddo ddiddordeb cryf mewn traws-gydweithredu a cyd-rannu ymarfer rhwng actio a cherddoriaeth, ac yn yr RCS roedd yn allweddol mewn llawer o ddatblygiadau newydd gan gynnwys actio ar gyfer y sgrin, cydweithrediadau â cherddoriaeth, a dad-wladychu’r cwricwlwm. Mae wedi ymrwymo’n fawr i hyfforddiant trylwyr, gan alluogi myfyrwyr i ddod y gorau y gallant fod a llwyddo yn y proffesiwn.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig ym mherthnasedd addysgu Shakespeare i’r actor modern, hanfodion actio, theatr i bobl ifanc, theatr gerddorol, gwelliant digidol mewn perfformiad ac actio ar gyfer y sgrin.
Yn ogystal ag addysgu, mae wedi cynnal dosbarthiadau meistr a chyrsiau byr mewn Actio, Actio Shakespeareaidd, Theatr Roegaidd a Sut i Glyweld ar gyfer Ysgol Ddrama mewn dinasoedd ledled y byd gan gynnwys Boston MA, Chennai, Chicago, Mumbai, Munich, Efrog Newydd, Oslo, Paris, Rijeka a St Petersburg. Mae wedi teithio cynyrchiadau theatr i Beijing, Kaohsiung (Taiwan), Kazan (Rwsia) a Spoleto yn yr Eidal.