Catriona MacKinnon
Tiwtor Obo
Rôl y swydd: Darlithydd Canu
Adran: Actio
Astudiodd Pip Reeves ganu a pherfformio yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, fel yr oedd bryd hynny, y Coleg Brenhinol erbyn hyn, ac aeth ymlaen i ennill gwobr Wolfson i fwrw ymlaen â’u hastudiaethau.
Mae’n gweithio’n broffesiynol fel cantores a thros y blynyddoedd mae eu sgiliau wedi ymestyn o ganu i gyfarwyddo ac adrodd storïau. Mae’n gweithio’n aml gyda cherddorion i ddatblygu stori i fod yn ddarn o theatr, boed hynny ar lafar neu ar gân, a chaiff hynny wedyn ei lwyfannu mewn lleoliad safle-benodol.
Yn ogystal â’i gwaith perfformio ei hun, mae Pip wedi bod yn darlithio canu yn Ysgol Ddrama Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am dros bum mlynedd ar hugain, gan addysgu techneg llais ac actio drwy gân. Ei nod yw datgyfrinio canu a chaniatáu i’r actor gyflwyno ei sgiliau actio i’r gân.
Drwy ei gwaith fel cantores ac athrawes, mae’n parhau i archwilio’r syniad o’r canwr rhyngddisgyblaethol, yr actor-ganwr a all symud yn ddiymdrech rhwng galwadau’r testun a cerddoriaeth, a dyma’r arbenigedd y mae’n ei gyflwyno i’w gwaith perfformio a’i haddysgu.
A hithau’n gantores wedi’u haddysgu’n glasurol, bu’n gweithio ym Mhrydain ac Ewrop mewn amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol. Bu’n perfformio gyda’r cwmni theatr corfforol ELAN yn Ewrop a chyda’r cyfansoddwr a’r coreograffydd o America, Meredith Monk. Datblygodd enw da am ei gwaith mewn cerddoriaeth gyfoes a byrfyfyrio, sy’n cynnwys gweithio gyda’r dawnsiwr Tanja Råmon a’r artist sain John Collingswood ar gyfres o berfformiadau byrfyfyr, a phenllanw hynny oedd y perfformiad cyntaf erioed o Virta yn y Royal Opera House.