Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Michael White

Rôl y swydd: Darlithydd Symud

Adran: Actio

Anrhydeddau: MA, BA (anrh)

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Michael yn Ysgol Jacques Lecoq ym Mharis (2008-10) ac mae ganddo MA mewn Theatr gyda rhagoriaeth o Ysgol Actio Guildford. Am flynyddoedd lawer bu Michael yn gweithio fel cyfarwyddwr a gwneuthurwr theatr: derbyniodd fwrsariaeth cyfarwyddwr cynorthwyol JMK yn theatr HOME ym Manceinion ac roedd yn artist cyswllt yn Theatr Lowry (Salford) a Theatr Harrogate. Mae hefyd wedi bod yn addysgu ers blynyddoedd lawer mewn gwahanol ysgolion drama.

Arbenigedd

Mae Michael yn arbenigo yng ngwaith a dysgeidiaeth Jacques Lecoq, gyda ffocws ar le jeu, ymgorfforiad, a mwgwd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn nhraddodiadau theatr gorfforol a rôl y corff mewn perfformio. Mae Michael wedi astudio commedia dell’arte gydag Antonio Fava yn yr Eidal ac wedi dilyn addysgeg ddwys yn archwilio gwaith Lecoq gydag ‘Embodied Poetics’, Norman Taylor, a’r École Jacques Lecoq ym Mharis.

Proffiliau staff eraill