
Jeremy West
Tiwtor Cornet
Mae Sophie yn actor llais ac adroddwr llyfrau sain gwobrwyedig. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Efrog cyn hyfforddi fel actor yn yr École Philippe Gaulier, ac yna yn y Guildhall School of Music and Drama. Ar ôl graddio enillodd Sophie Wobr Carleton Hobbs y BBC, a arweiniodd at leoliad chwe mis gyda Chwmni Rep Radio’r BBC. Mae hi wedi gweithio’n rheolaidd ym meysydd theatr, teledu, ffilm, radio, adrodd llyfrau sain a gwaith trosleisio am yr 20 mlynedd diwethaf.
Gweithiodd Sophie am sawl blwyddyn ar y panel clyweld yn y Guildhall, a bu’n mentora a thiwtora myfyrwyr israddedig trydedd flwyddyn yno’n rheolaidd. Mae hi wedi bod yn diwtor ar gyfer gwobr Carleton Hobbs y BBC yn CBCDC ers 2022.