Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Biddy Wells

Rôl y swydd: Senior Lecturer in Acting

Adran: Actio

Anrhydeddau: PGCERT HE, MA Text & Performance, Diploma - Acting, Fellow of Higher Education Academy

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad byr

Hyfforddodd Biddy yn Ysgol Bale Elmhurst a RADA. Ar ôl ei gyrfa actio dychwelodd i astudio’r ddau faes yn RADA, er mwyn cwblhau MA mewn Testun a Pherfformio, ac yn y Guildhall School of Music and Drama, ac ennill Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysgu Celfyddyd Perfformio mewn Addysg Uwch, lle dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth gyda’r Academi Addysg Uwch. Mae Biddy wedi astudio gyda’r Athro Andrei Malaev-Babel, a gyfieithodd weithiau Nikolai Demidov, a dulliau Uta Hagen gyda Carol Rosenfeld, HB Studios Efrog Newydd.

Arbenigedd

Mae Biddy wedi perfformio gyda llawer o gwmnïau gan gynnwys The Mercury Theatre Company, The Royal Shakespeare Company, The Wrestling School, ac Actors from the London Stage (UDA) ac mae ganddi gredydau teledu gyda Kudos, Channel 4, BBC, Sky a Shed Productions.

Cyn ymuno â CBCDC bu Biddy yn addysgu fel Darlithydd Cyswllt yn Ysgol Actio Guildford ac fel Darlithydd yn Ysgol Actio East 15. Mae ei chredydau cyfarwyddo yn cynnwys Tis Pity She’s a Whore, Duchess of Malfi, Hamlet, Macbeth, Julia Caesar, Richard III, Henry VI iii, Blood Wedding, The American Clock, Oleanna, Closer, a The Three Sisters.

Fel hyfforddwr actor mae Biddy yn teimlo mai’r flaenoriaeth yw bod ei myfyrwyr yn gweithio mewn man diogel, lle maent yn teimlo wedi’u grymuso i archwilio gyda pharch, chwarae a hunanfynegi, gan fod yn barod i fethu ond gyda’r ddisgyblaeth a’r penderfyniad i roi cynnig arall arni. Y man diogel hwn yw lle mae’r berthynas rhwng y personol a’r actor/artist yn dechrau. Mae Biddy yn anelu am ragoriaeth yn y gobaith y bydd ei myfyrwyr yn CBCDC yn arloeswyr gwych ym myd llwyfan a ffilm ac o ganlyniad yn ddinasyddion gwerthfawr yn y byd.

Proffiliau staff eraill