Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Michael McCartney

Rôl y swydd: Tiwtor mewn Cyfansoddi gyda Sgiliau Cerddoriaeth wedi’i Nodiannu

Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Anrhydeddau: BFA (State University of New York College in Purchase)

Bywgraffiad Byr

O Ddinas Efrog Newydd y daw Michael McCartney yn wreiddiol. Mae wedi mwynhau gyrfa ryngwladol fel golygydd cerddoriaeth gyfoes, gan weithio gyda chyfansoddwyr yn y DU, Iwerddon, Denmarc, yr Iseldiroedd ac UDA.

Bu Michael yn gweithio’n agos gyda chyfansoddwyr mor amrywiol â Simon Bainbridge, Harrison Birtwistle, Mark Anthony Turnage, Barry Guy, Joby Talbot, Per Nørgård a Poul Ruders, ac mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth unigryw iddo o amrywiaeth eang o arddulliau, technegau ac estheteg gyfansoddiadol.

Arbenigedd

Mae gan Michael ddiddordeb brwd mewn harmoni cyweiraidd ac ôl-gyweiraidd, yr Ail Ysgol Fiennaidd, theori Tone-Clock Peter Schat, ac yng nghyfansoddwyr America yr 20fed ganrif.

Gyda gwybodaeth ddofn o nodiant cerddoriaeth gyfoes, mae’n rhoi arweiniad arbenigol i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi eu sgoriau eu hunain.

Fel perfformiwr, mae Michael wedi comisiynu dwsinau o weithiau i’r gitâr glasurol, ac wedi rhoi’r perfformiadau cyntaf ohonynt; ac mae’n aml wedi perfformio a recordio gweithiau myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cyflawniadau Nodedig

Mae ei gyfansoddiadau ei hun, er nad oes llawer ohonynt, wedi’u perfformio yn Efrog Newydd, Nottingham, a’r Barbican Centre yn Llundain. Mae trefniadau Michael, gan gynnwys lleihad i’r piano o operâu Stuart MacRae a threfniadau i’r gitâr, wedi’u choeddi gan Chester Music, Novello & Co. a Boosey and Hawkes.

Proffiliau staff eraill