Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Freddie Brown

Rôl y swydd: Hyfforddwr Llais

Adran: Opera

Bywgraffiad Byr

Mae Frederick Brown yn bianydd, arweinydd a répétiteur o Brydain. Mae ar hyn o bryd ar staff cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru, a chyn hynny bu ar staff yr Hamburg Staatsoper ac mae hefyd wedi gweithio i Ŵyl Gelfyddydau Iford a Gŵyl Ryngwladol Buxton.

Arbenigedd

Yn enedigol o Gernyw, mae wedi hyfforddi ym Mhrifysgol Caergrawnt, yr Academi Gerdd Frenhinol a'r National Opera Studio. Fel cyfeilydd a cherddor siambr mae wedi ymddangos mewn lleoliadau gan gynnwys Wigmore Hall, St John’s Smith Square, St Martin in the Fields a'r Royal Albert Hall ac mae ei berfformiadau wedi’u darlledu ar radio cenedlaethol ym Mhrydain (BBC Radio 3) a thramor. Ym mis Medi 2016, mewn deuawd gyda'r bariton Henry Neill, enillodd wobr yn y Gystadleuaeth Leisiol Ryngwladol yn s-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd yn Llundain yn St Martin in the Fields ym mis Ionawr 2015, gan gyfarwyddo’r Twickenham Choral Society gyda Sinfonia Brandenburg yn Requiem Mozart, ac ym mis Rhagfyr 2016 arweiniodd y Philharmonia Orchestra a Lunds Studentsångförening mewn cyfres o gyngherddau yn Klosters yn y Swistir. Mae hefyd wedi arwain cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru wrth recordio ac mewn cyngerdd.

Proffiliau staff eraill