Simon Reeves
Pennaeth Dysgu ac Addysgu
Rôl y swydd: Tiwtor Trymped
Adran: Pres
Anrhydeddau: BEM, BA(anrh) , ARCM, Dip.NCOS.
Ganed Martin McHale yn Stirling, yr Alban a dechreuodd ar ei fywyd cerddorol yn ei fand pres lleol, gan symud ymlaen wedyn i arwain Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban. Ar ôl cyfnod cynhyrchiol fel aelod o Fand Brighouse a Rastrick, dechreuodd Martin chwarae’r trwmped yn lle'r cornet, gan astudio yn Ysgol Gerdd Huddersfield a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Cwblhaodd ei yrfa fel myfyriwr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Astudiaethau Cerddorfaol yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain.
Ar ôl cyfnod byr fel chwaraewr llawrydd gyda’r Halle, BBCPO, RLPO ac SCO, derbyniodd swydd yn chwarae'r ail drwmped gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Martin am ei wasanaethau i gerddoriaeth yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2020.