Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Julia Plaut

Rôl y swydd: Tiwtor Basŵn/Basŵn Baróc

Adran: Chwythbrennau

Anrhydeddau: MMUS (CBCDC), ARCM, Dip.RCM (athrawon)

Bywgraffiad Byr

Mae Julia Plaut wedi perfformio a recordio gyda llawer o ensembles cerddoriaeth gynnar gorau Prydain gan gynnwys The Academy of Ancient Music, English Baroque Soloists ac Orchestra of the Age of Enlightenment. Gan deithio'n helaeth yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a Japan, mae Julia wedi perfformio yn Carnegie Hall, The Lincoln Centre, Musikverein Fienna, Concertgebouw Amsterdam a La Scala Milan.

Arbenigedd

Fel Prif Fasŵn Band Hanover, mae Julia wedi ymddangos fel unawdydd concerto ac ar BBC Radio 3 o Ŵyl Caeredin fel unawdydd yn Sinfonia Concertante Mozart. Recordiodd brosiect Symffonïau cyfan Haydn y Band. Adolygodd The Independent un o berfformiadau Julia ym Mhroms y BBC fel ‘chwythbrennau llawn cymeriad, gyda basŵn hynod argyhoeddiadol’.

Ar y basŵn modern, mae Julia wedi gweithio’n llawrydd gyda Cherddorfa Symffoni y BBC, BBC NOW a Cherddorfa yr Alban y BBC ymhlith eraill.

Mae Julia yn addysgwr brwdfrydig sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd, yn amrywio o waith gyda chwaraewyr basŵn proffesiynol i waith Kodaly gyda phlant.

Fel Cyfarwyddwr Artistig yr elusen cerddoriaeth plant, Little Live Projects, mae Julia yn mwynhau curadu cyngherddau a chyfleoedd i deuluoedd ifanc ryngweithio’n greadigol â cherddoriaeth newydd a cherddorion. Mae Julia yn hyfforddi ac yn mentora myfyrwyr CBCDC i weithio’n arbenigol gyda phlant 0 -11 oed.

Fel cyfansoddwr, mae Julia yn ysgrifennu ar gyfer lleisiau; gan gynnwys opera siambr, corawl, Lied a chaneuon i blant, yn ogystal â gweithiau offerynnol mawr a bach. Mae ei cherddoriaeth wedi’i pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Dewi Sant, CBCDC, Gŵyl Lieder Leeds, The Guard’s Chapel Llundain, ac Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Llwyddiannau Nodedig

Roedd yn anrhydedd i Julia arwain y perfformiad cyntaf o’i chyfansoddiad 24 PIANOS a gomisiynwyd gan CBCDC i ddathlu 24 o bianos Steinway newydd yn cyrraedd y Coleg yn 2020.

Dolenni i ymchwil/ prosiectau (os yn berthnasol)

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Proffiliau staff eraill