Roger Owens
Tiwtor Piano
Yng Ngwlad Pwyl y ganwyd Jarosław (Jarek) Augustyniak, a graddiodd gyda rhagoriaeth o’r Academi Gerdd yn Łódź, Gwlad Pwyl. Roedd yn llawryfol yng Nghystadleuaeth Offerynwyr Ifanc XXI yn Włoszakowice ac aeth ymlaen i astudio o dan arweiniad Vincenzo Menghini, RAI Turin.
Jarek oedd y Prif Faswnydd yng Ngherddorfa Genedlaethol Gwlad y Basg, Nova Filarmonia Portuguesa, Cerddorfa Symffoni Opera Łódź a Cherddorfa Ffilharmonig Genedlaethol Warsaw. Ers 2004, bu’n Brif Faswnydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Nid yn unig y mae wedi ymsefydlu yn sîn gerddoriaeth Prydain, ond caiff hefyd ei wahodd yn aml i fod yn Brif Faswnydd gwadd i bob un o’r prif ensembles yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae Jarek hefyd wedi meithrin gyrfa weithgar ryngwladol fel unawdydd.
Fel baswnydd cerddorfaol amser llawn gyda fwy na 30 mlynedd o brofiad ac angerdd at addysgu, bu Jarek yn trefnu cyrsiau haf blynyddol ar y chwythbrennau yng Ngwlad Pwyl, a drawsffurfiodd i fod yn blatfform addysg ar-lein, Ventus Optimus, gan ddenu myfyrwyr ac athrawon o bedwar ban byd. Mae’r math yma o brosiectau yn agos at galon Jarek, gan fod ganddo angerdd at fentora a rhannu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i brofiad helaeth o’r basŵn.
Caiff ei wahodd yn rheolaidd i roi dosbarthiadau meistr yn yr Unol Daleithiau, amryw wledydd yn Ewrop, a Japan, ac yn ddiweddar cafodd ei wahodd i’r Unol Daleithiau a Chanada.
Mae ei recordiadau’n cynnwys unawd basŵn ar ffilm Anri Sala, 1395 Days Without Red, CD gyda Cherddorfa Genedlaethol Gwlad y Basg, Quintillion Ensemble, a sawl recordiad fel unawdydd a cherddor siambr i BBC Radio 3 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gan gynnwys Weber - Andante and Rondo, a concertos gan Haydn, Jolivet a Panufnik.