DigwyddiadArddangosfa Arweinwyr gyda Cherddorfa WNOAgorawdau Rhamantaidd Mae Arweinyddion Coleg Brenhinol Cymru yn arwain Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru mewn cyngerdd awr ginio o ffefrynnau cerddorfaol bywiog, gan ddathlu talent ifanc drwy ein partneriaeth CBCDC/WNO.
DigwyddiadGwobr John IrelandYm maes cerddoriaeth siambr a’r gân y gwnaeth John Ireland ei enw gyntaf fel cyfansoddwr, a dyma’r meysydd y bu fwyaf cartrefol ynddynt drwy gydol ei yrfa. Mae’n bleser gan y Coleg groesawu Gwobr John Ireland yn ôl, gan roi’r cyfle i’n myfyrwyr gydweithio mewn perfformiadau o gerddoriaeth y meistr cerddoriaeth siambr hollbwysig hwn, gan arwain at rownd derfynol gyhoeddus i berfformwyr ensemble a lleisiol.
DigwyddiadSir Ian Stoutzker Prize FinalCyfrannodd Syr Ian Stoutzker yn hael tuag at adeiladu neuadd gyngerdd y Coleg a rhoddodd wobr flynyddol i’n myfyriwr cerddoriaeth mwyaf rhagorol, i’w dyfarnu trwy gystadleuaeth. Ar ôl coroni’r ffliwtydd Katie Bartels yn enillydd Gwobr Offerynnol Stoutzker 2024, ymunwch â’n cystadleuwyr lleisiol rhagorol wrth iddynt gystadlu am yr anrhydedd eithaf.
DigwyddiadSweeney Todd CBCDC: The Demon Barber of Fleet StreetMynychwch chwedl Sweeney Todd Sondheim...
DigwyddiadOpera Double Bill: Salieri a MenottiYsgol Opera David Seligman yn cyflwyno rhaglen ddwbl ddeinamig o waith Salieri a Menotti.
DigwyddiadAwyrgylch 2025: Journey of DoudouCyngerdd cerddoriaeth glasurol sy’n dilyn Doudou ar ei thaith, wrth iddi deithio ymhell o’i chartref a darganfod natur yn ei chalon. Mae’r ddau ddarn, seithawd chwyth a phedwarawd llinynnol sy’n archwilio arddull neo-glasurol-ramantaidd, yn ymgorffori elfennau cyfoes. Rhywbeth tebyg i ychwanegu tsili sbeislyd at bwdin melys.
DigwyddiadAwyrgylch 2025: Pastures of Broken GlassGan archwilio hunaniaeth doredig y genhedlaeth wedi’r helynt yn Iwerddon, mae’r gwaith aml-symudiad hwn ar gyfer pedwarawd cymysg yn cloddio’n ddwfn i gymhlethdodau brwydr y gymuned ag etifeddiaeth y ffin, trawma cenhedlaeth, colled ac iachâd.
DigwyddiadAwyrgylch 2025: SeasonsMae hafau euraidd a haul yr hydref yn peri myfyrdod a hiraeth. Mae’r gwaith amlddisgyblaethol newydd sbon hwn yn cyfuno cast o ddawnswyr, cerddorion, sain electronig, a delweddau gweledol i ddatrys hynt y tymhorau a ysbrydolwyd gan Monet.
DigwyddiadAwyrgylch 2025: Screens Have EarsBeth wnewch chi pan mai chi yw’r unig berson sydd ar ôl mewn byd adfeiliedig? Dewch i gwrdd â Gwrthrych 03894 sy’n ceisio canfod eu bywyd yn yr oes newydd. Wedi’i hysbrydoli gan Genre Arswyd ‘Found Footage’, mae Screens Have Ears yn manylu ar y syniadau o alar, colled, a gobaith trwy gerddoriaeth, sain ofodol, a chynllunio sain.