DigwyddiadCyfres Piano Rhyngwladol Steinway: Clare Hammond“Campwraig ddisglair” y piano – dyna sut mae The Guardian yn disgrifio Clare Hammond, ac mae’n llygad ei le – mae arddeliad a dychymyg rhyfeddol ym mhopeth y bydd yn ei chwarae. Fore heddiw, wedi’i hysbrydoli gan flwyddyn nodi 150 mlynedd ers geni Maurice Ravel, mae’n archwilio cerddoriaeth piano Ffrengig ar ei mwyaf chwareus a dyfeisgar: byd o ffantasi pefriol ac emosiwn dwys, wedi’i ysgogi gan artist sydd â dawn arbennig i adrodd straeon cerddorol.
DigwyddiadAcademi Only Boys Aloud 2025Mae Academi Only Boys Aloud yn gwrs preswyl dwys wythnos o hyd i aelodau Only Boys Aloud rhwng 16 a 25 oed, a gynhelir eleni yng Ngholeg Crist, Aberhonddu am y tro cyntaf erioed. Mae'r cwrs yn darparu hyfforddiant ym mhob agwedd o gerddoriaeth, canu a pherfformio. Ymunwch â ni am y cyngerdd olaf o'n cyfres o gyngherddau diwedd cwrs sy'n arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth gorawl - o repertoire corau meibion traddodiadol i glasuron theatr gerdd. Rydym hefyd wrth ein bodd y bydd soprano Jessica Robinson, a gyrrhaeddodd rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd yn 2023, yn ymuno â ni.
pageCynllunio eich ymweliadGallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i gynllunio’ch ymweliad, o archebu tocynnau, archebion ysgolion a grwpiau, i archwilio beth sydd ar gael yn ein Café Bar, gwirio gwybodaeth hygyrchedd, a chael cyfarwyddiadau i’n lleoliadau.
pageEin lleoliadauDewch i adnabod ein mannau perfformio cyn i chi gyrraedd. Fel un o ganolfannau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd, mae CBCDC yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau bob blwyddyn.
Newyddion‘Mae’r celfyddydau creadigol yn newid pethau': Croeso i Is-lywydd newydd y Coleg, Dr Rowan WilliamsRydym yn falch iawn bod Dr Rowan Williams, y Gwir Barchedig a'r Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth yn ymuno â ni fel Is-lywydd.
DigwyddiadREPCo: JourneysYmunwch â ni am daith gerddorol trwy dirweddau o hunaniaeth, hiraeth, a darganfyddiad. Mae’r rhaglen hon o gerddoriaeth siambr, wedi’i harwain gan garfan o arweinwyr y Coleg, yn cynnig archwiliad o’r teithiau niferus rydym yn eu gwneud, o fewn ein hunain a thu hwnt.
DigwyddiadCyfres Piano Rhyngwladol Steinway: Lise de la SalleMae hi bob amser yn bleser pan fydd Lise de Salle yn dychwelyd i CBCDC – wedi’r cyfan, dyma bianydd a ddisgrifiwyd gan Gramophone fel “dawn un mewn miliwn”! Heddiw, bydd yn ein cludo o Gaerdydd i Baris, gan deithio yn ôl traed Mozart, Liszt a Ravel mewn cyngerdd a ysbrydolwyd gan ddirgelwch, disgleirdeb a rhamant pur Dinas y Goleuadau.
DigwyddiadCyfres Piano Rhyngwladol Steinway: Alim Beisembayev“Nid oes amheuaeth ynghylch statws Beisembayev” meddai un beirniad pan gipiodd Alim Beisembayev y gwobrau i gyd yng Nghystadleuaeth Piano Ryngwladol Leeds 2021 - ac nid oes geiriau mewn gwirionedd i ddisgrifio celfyddyd y pianydd ifanc rhyfeddol hwn o Kazakh. Felly, dewch i’w glywed drosoch eich hun: mewn datganiad hynod ramantus wedi’i goroni gan Sonata yn B leiaf aruthrol Liszt. Angerdd pur…