Cyngerdd Arbennig Steinway: Y Kanneh-Masons
Mae’n rhaid eich bod yn ymwybodol o’r wefr yn ymwneud â’r Kanneh-Masons: y siblingiaid o Nottingham a allai fod yn deulu mwyaf cerddorol Prydain a sydd wedi datblygu i fod yn artistiaid llawn carisma a sgil rhyfeddol. Heddiw yw eich cyfle i glywed nhw ar waith, wrth i Sheku, Isata, Braimah a Jeneba chwarae tri champwaith cerddoriaeth siambr, gan gynnwys Trio rhif 2 ysgytwol Shostakovich.