Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sergey Levitin

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad byr

Feiolinydd a chyngerddfeistr o fri rhyngwladol yw Sergey Levitin, sy’n adnabyddus am ei artistiaeth a’i arweinyddiaeth. Pan oedd ond yn 23 oed fe’i penodwyd yn Gyngerddfeistr Cerddorfa Theatr Mariinsky gan Valery Gergiev, gan deithio’n fyd-eang a chyfrannu at recordiadau mawr gyda Philips Classics a Decca. Mae wedi perfformio fel unawdydd o dan faton arweinwyr megis Valery Gergiev a Gianandrea Noseda mewn gwyliau mawreddog sy’n cynnwys Gŵyl Caeredin a Gŵyl White Nights.

Mae wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau rhyngwladol, sy’n cynnwys cystadlaethau feiolin Lipizer a Paganini, a derbyniodd hefyd Wobr Renato de Barbieri am ei ddehongliad o capriccios Paganini. Ers 2004 mae wedi bod yn arwain Cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, fel cyngerddfeistr. Ef yw sylfaenydd Chamber Principles of London, ensemble a gafodd ganmoliaeth am ei berfformiad cyntaf yn Teatro Verdi di Salerno. Mae ei gydweithrediadau helaeth yn cynnwys perfformiadau gyda Syr Antonio Pappano, Alison Balsom ac Alexei Volodin, yn ogystal â recordio perfformiadau premiere byd gyda Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.

Arbenigedd

Mae arbenigedd Levitin yn rhychwantu perfformiadau unigol, siambr a cherddorfaol. Yn gerddor siambr ymroddedig, cydsefydlodd yr Hermitage String Trio ac mae wedi ymddangos sawl gwaith yn Neuadd Wigmore, Kings Place a’r Tŷ Opera Brenhinol. Mae’n gyngerddfeistr gwadd y mae galw mawr am ei wasanaeth gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys Cerddorfa Tonhalle Zurich, Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Ffilharmonia, a Cherddorfa Ffilharmonig Rotterdam.

Fel addysgwr mae wedi arwain gweithdai feiolin a cherddorfaol mewn sefydliadau megis Conservatoire Brenhinol Birmingham a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ddiweddar bu’n “Commissario esterno” yn Teatro Regio a bydd yn ehangu’r rôl hon i’r Teatro di San Carlo yn 2025, gan gadarnhau ymhellach ei ddylanwad ym myd cerddoriaeth glasurol.

Proffiliau staff eraill