DigwyddiadCyfres Piano Rhyngwladol Steinway: Tamara StefanovichI Johann Sebastian Bach, roedd cerddoriaeth yn rhedeg yn y teulu, a chreodd ei feibion beth o gerddoriaeth arloesol (a phleserus) y ddeunawfed ganrif. Ond i Tamara Stefanovich – pianydd sydd wedi’i disgrifio’n “eofn, disglair, eithriadol” – mae mwy nag un ochr i bob stori gerddorol, a heddiw bydd yn datgelu ochr arall, swynol i athrylith Bach: meddwl harddaf cerddoriaeth y gorllewin.
DigwyddiadMiss Universe yn Rownd Derfynol Miss Universe Prydain 2025Mi fydd un fenyw yn cael ei ddewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn Miss Universe yn Rownd Derfynol Miss Universe Prydain 2025. Dyma’r dathliad mwyaf o basiantau Prydeinig, gan ddathlu cryfder, angerdd a’r prydferthwch o fod yn fenywaidd. Mae hyn i gyd yn gysylltiedig â A-sisterhood, elusen sy’n cefnogi, grymuso ac amddiffyn menywod ledled y byd.
DigwyddiadCyfres Piano Rhyngwladol Steinway: Clare Hammond“Campwraig ddisglair” y piano – dyna sut mae The Guardian yn disgrifio Clare Hammond, ac mae’n llygad ei le – mae arddeliad a dychymyg rhyfeddol ym mhopeth y bydd yn ei chwarae. Fore heddiw, wedi’i hysbrydoli gan flwyddyn nodi 150 mlynedd ers geni Maurice Ravel, mae’n archwilio cerddoriaeth piano Ffrengig ar ei mwyaf chwareus a dyfeisgar: byd o ffantasi pefriol ac emosiwn dwys, wedi’i ysgogi gan artist sydd â dawn arbennig i adrodd straeon cerddorol.
DigwyddiadAcademi Only Boys Aloud 2025Mae Academi Only Boys Aloud yn gwrs preswyl dwys wythnos o hyd i aelodau Only Boys Aloud rhwng 16 a 25 oed, a gynhelir eleni yng Ngholeg Crist, Aberhonddu am y tro cyntaf erioed. Mae'r cwrs yn darparu hyfforddiant ym mhob agwedd o gerddoriaeth, canu a pherfformio. Ymunwch â ni am y cyngerdd olaf o'n cyfres o gyngherddau diwedd cwrs sy'n arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth gorawl - o repertoire corau meibion traddodiadol i glasuron theatr gerdd. Rydym hefyd wrth ein bodd y bydd soprano Jessica Robinson, a gyrrhaeddodd rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd yn 2023, yn ymuno â ni.
pageCynllunio eich ymweliadGallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i gynllunio’ch ymweliad, o archebu tocynnau, archebion ysgolion a grwpiau, i archwilio beth sydd ar gael yn ein Café Bar, gwirio gwybodaeth hygyrchedd, a chael cyfarwyddiadau i’n lleoliadau.
pageEin lleoliadauDewch i adnabod ein mannau perfformio cyn i chi gyrraedd. Fel un o ganolfannau celfyddydau mwyaf poblogaidd Caerdydd, mae CBCDC yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau bob blwyddyn.