Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Canlyniadau chwilio

Canlyniadau chwilio ar gyfer ' ' | 1725 o ganlyniadau wedi’u canfod.

Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Pastures of Broken Glass

Gan archwilio hunaniaeth doredig y genhedlaeth wedi’r helynt yn Iwerddon, mae’r gwaith aml-symudiad hwn ar gyfer pedwarawd cymysg yn cloddio’n ddwfn i gymhlethdodau brwydr y gymuned ag etifeddiaeth y ffin, trawma cenhedlaeth, colled ac iachâd.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Seasons

Mae hafau euraidd a haul yr hydref yn peri myfyrdod a hiraeth. Mae’r gwaith amlddisgyblaethol newydd sbon hwn yn cyfuno cast o ddawnswyr, cerddorion, sain electronig, a delweddau gweledol i ddatrys hynt y tymhorau a ysbrydolwyd gan Monet.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Screens Have Ears

Beth wnewch chi pan mai chi yw’r unig berson sydd ar ôl mewn byd adfeiliedig? Dewch i gwrdd â Gwrthrych 03894 sy’n ceisio canfod eu bywyd yn yr oes newydd. Wedi’i hysbrydoli gan Genre Arswyd ‘Found Footage’, mae Screens Have Ears yn manylu ar y syniadau o alar, colled, a gobaith trwy gerddoriaeth, sain ofodol, a chynllunio sain.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Gwenhidw

Yn yr arbrawf corawl naratif hwn, mae trigolion tref glan môr cysglyd yn clywed llais dirgel. Tybed ai Gwenhidw, Morforwyn Brenhines Cymru, ydyw i ganu iddynt drwy’r gaeaf, neu anghenfil heb wyneb neu efallai ei fod yn rhywbeth hyd yn oed yn fwy prydferth nag y gallent erioed fod wedi’i ddychmygu?
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: If the Walls Could Talk

Pe gallai’r waliau siarad, pa gyfrinachau fyddai’n cael eu datgelu? Dewch ar daith gyda’r hwyr i arsylwi ar rannau tywyll a dirgel Dinas Gothig yn Llundain Oes Fictoria trwy’r profiad clyweledol hwn.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Myfanwy

‘Neud wyf ddihynwyf, hoen Creirwy-hoywdeg, am hudodd fal Garwy, O fan o’r byd, rhwym gwyd rhwy, O fynor gaer Fyfanwy.’ Opera newydd sy’n adrodd hanes rhamant hynafol llys Powys Fadog, yn ystod esgyniad cythryblus Llewelyn ap Gruffudd.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: What if they don't want to be found?

Drama farddonol tair act sy’n adrodd hanes anifeiliaid dryslyd ac mewn perygl, gan dynnu cymariaethau rhyngddynt a’r cyfansoddwr. Wedi’i hadrodd trwy gerddi a rhyddiaith, gyda chymorth gwaith celf, tafluniadau a phropiau.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: Sky Frog

Cyfle i fwynhau lluniau a seiniau fideo cerddoriaeth gyntaf y ddeuawd pop electronig sky frog.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: The Echo of the Rain

Mae’r gorffennol a’r presennol yn gwrthdaro mewn stori freuddwydiol am aberth, gobaith, a deisyfiad oesol y ddynoliaeth am iachawdwriaeth. Rhwng realiti a myth, mae’r perfformiad hwn yn plethu cerddoriaeth, dawns, ac adrodd straeon i archwiliad byw o’r hyn sydd ei angen i sicrhau newid - galar, llawenydd, neu ffydd ddiwyro.
Digwyddiad

Awyrgylch 2025: The Boy Who Fell from the Sky

Mae’r stori’n dechrau gydag ymddangosiad sydyn bachgen o ffoadur mewn gwareiddiad Prydeinig yng nghanol y cyhoedd. Mae’r opera hon yn archwilio creu bwch dihangol o ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn amlygu eu gwirioneddau a’u teithiau o bedwar ban byd.