

Cerddoriaeth
REPCo: Journeys
Trosolwg
Iau 26 Meh 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£5
Tocynnau: £5
Gwybodaeth
Ymunwch â ni am daith gerddorol trwy dirweddau o hunaniaeth, hiraeth, a darganfyddiad. O fywiogrwydd Grace Williams i ganeuon teimladwy Mahler, cawn yn gyntaf olrhain ysbryd eofn cyfansoddwraig ifanc o Gymru yn canfod ei llais, i daith emosiynol teithiwr â’i galon wedi torri. Caiff myfyrdodau dirdynnol Puccini a Sibelius ar gariad, colled a thynged anochel eu huno â gobaith yn nathliad llawen Copland o ddechreuadau newydd ar draws yr Iwerydd. Mae’r rhaglen hon o gerddoriaeth siambr, wedi’i harwain gan garfan o arweinwyr y Coleg, yn cynnig archwiliad o’r teithiau niferus rydym yn eu gwneud, o fewn ein hunain a thu hwnt.
Rhaglen
Grace Williams |
Cyfres ar gyfer Naw Offeryn |
Mahler |
Lieder eines fahrenden Gesellen (trefn Arnold Schönberg) |
Puccini |
Crisantemi SC 65 |
Jean Sibelius |
Valse Triste Op. 44/1 |
Aaron Copland |
Appalachian Spring (Fersiwn wreiddiol ar gyfer 13 o chwaraewyr) |
Bariton |
Lachlan Higgins |