Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gwasanaethau myfyrwyr yn y rownd

Bu Kate Williams, y rheolwr cymorth myfyrwyr, yn siarad â Music Teacher am bwysigrwydd lles myfyrwyr, a dull y Coleg i gefnogi ei artistiaid.

Yn CBCDC credwn, yn ystod cyfnod myfyriwr gyda ni, mai iechyd meddwl a lles yw un o’r elfennau pwysicaf. Dangoswyd y gall anawsterau iechyd meddwl fod yn fwy cyffredin ymhlith ein poblogaeth greadigol. Weithiau mae ymdrechu am berffeithrwydd, fel y bydd perfformwyr yn ei wneud yn aml, yn golygu y gall iechyd meddwl gael mwy o gnoc pan na chaiff y disgwyliadau uchel hyn eu cyflawni.

Hefyd, yn hollbwysig, mae dyfodiad cyflyrau iechyd meddwl fel arfer yn digwydd rhwng 18-24 oed a gall fod yn waeth oherwydd y trawsnewid o’r cartref i brifysgol a setlo i fywyd fel oedolyn annibynnol. Datgelodd y gwaith o gasglu data i baratoi ar gyfer ein gwaith gyda phrifysgolion de ddwyrain Cymru, er bod gan CBCDC y boblogaeth leiaf o fyfyrwyr o gymharu â phrifysgolion eraill, o ystyried ein cymeriant creadigol, yn gymesurol mae gennym y lefel uchaf o fyfyrwyr sydd angen cymorth iechyd meddwl. Felly mae’n amlwg i ni, os ydym am fod yn wirioneddol gynhwysol, mae gennym gyfrifoldeb i gymryd iechyd meddwl myfyrwyr o ddifrif.

Gan wybod yr effaith y gall gadael cartref a dod i addysg uwch ei chael ar bobl ifanc, rydym wedi cyflwyno cyfres ymsefydlu lawn pan fyddant yn cyrraedd. Dros wythnosau cyntaf eu bywyd newydd fel myfyriwr, yn ogystal â’u cyflwyno i fywyd y Coleg, eu cydweithwyr newydd ac athrawon mewn ffordd greadigol ac ysgogol, mae hefyd yn nodi gwerthoedd y Coleg. Mae’n ei gwneud yn glir, er eu bod bellach yn astudio mewn conservatoire ac y bydd disgwyl iddynt weithio’n galed iawn a bod dan rhywfaint o bwysau i berfformio hyd eithaf eu gallu, ni ddylai hyn fyth fod ar draul eu hiechyd meddwl a’u lles.

Mae ymsefydlu yn rhan o ddull cyfannol y Coleg ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gan weithio gyda data’r adran mynediadau a neuaddau preswyl, yn ogystal â’n hacademyddion. Mae’r dull rhagweithiol cydgysylltiedig hwn yn golygu y gallwn yn aml weithio gyda myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd pwynt o argyfwng, ond os ydynt yn gwneud hynny gallwn fod yno i’w cefnogi cyn gynted ag y bydd angen cefnogaeth arnynt.

Gan fod iechyd meddwl yn gymaint o flaenoriaeth, rydym wedi adeiladu tîm gwasanaethau myfyrwyr arbenigol mewnol sy’n darparu gwasanaethau arbenigol Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr sydd ei angen yn cael mynediad at gymorth mentora iechyd meddwl wythnosol, wedi’i gynllunio i weithio ochr yn ochr â’u cyrsiau, ac rwy’n gweithio gyda phenaethiaid adrannau perthnasol ar draws maes cerddoriaeth i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried a bod addasiadau’n cael eu rhoi ar waith mewn ffordd amserol a sensitif sy’n cadw at y Ddeddf Cydraddoldeb.

Ochr yn ochr â mi mae ein staff llawn amser yn cynnwys dau diwtor sgiliau astudio arbenigol arall a dau fentor iechyd meddwl arbenigol. Mae’r gweithwyr proffesiynol medrus iawn hyn, sydd ag aelodaeth broffesiynol yn eu priod feysydd, yn angerddol am eu gwaith. Er enghraifft, mae Ben Cowley, un o’n Mentoriaid DSA Arbenigol newydd dderbyn MBE am y gwaith a wnaeth i’r GIG yn ystod covid, yn ogystal â gwirfoddoli i Shout 24/7 yn ei amser rhydd. Mae Amy Hubbuck, ein Mentor Arbenigol arall, yn parhau i weithio i elusennau gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Merched i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched a menywod. Mae tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn gymwys ym mhob agwedd ar iechyd meddwl neu les myfyriwr, gan gynnwys sgiliau atal hunanladdiad a chymorth cyntaf brys. Maent i gyd yn dilyn llwybr datblygiad proffesiynol cadarn i sicrhau y cedwir at arfer gorau bob amser.

Ochr yn ochr â hyn rydym yn darparu offer a chefnogaeth i’n myfyrwyr, yr ydym yn eu creu ein hunain, neu y gallwn eu cyfeirio atynt, ac yn datblygu sgyrsiau a rhaglenni hyfforddi ar gyfer ein myfyrwyr. Gan mai dim ond tua 850 o fyfyrwyr sydd gennym ni, gallwn ddod i’w hadnabod a’u cefnogi gyda dull pwrpasol, boed hynny dim ond cael paned o de neu ddarganfod yn uniongyrchol beth yw’r problemau a’r pryderon ac ymateb yn unol â hynny.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae CBCDC wedi bod yn gweithio gyda phrifysgolion eraill yn ne ddwyrain Cymru i greu Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Brifysgol mewn partneriaeth â’r GIG a nyrsys iechyd meddwl cymunedol. Lansiwyd hwn ym mis Ebrill ac mae wedi bod yn newid sylweddol i ni ac rydym eisoes yn dechrau gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud. Mae cael nyrsys iechyd meddwl cymunedol ar y safle a bod ar flaen y gad o ran yr arferion iechyd meddwl gorau yn golygu y gallwn nawr barhau i fynd gam ymhellach i’n myfyrwyr.

Ymddangosodd yr erthygl hon yn Music Teacher fel rhan o’n partneriaeth llesiant ar 1 Chwefror 2023

https://www.musicteachermagazi...

Storïau eraill