Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Mae Rhaglen yr Haf yn barod, ac mae’n amser gwyliau!

Rhannu neges

Categorïau

Beth sydd ymlaen

Dyddiad cyhoeddi

Published on 26/04/2024

Bydd ein dathliadau pen-blwydd yn 75 oed yn parhau'r haf hwn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda rhaglen orlawn o ddigwyddiadau cyffrous sy’n cynnwys gwyliau cerddoriaeth a drama.

Haf o wyliau

Mae Awyrgylch, gŵyl gerddoriaeth newydd flynyddol CBCDC, yn dychwelyd rhwng 3 - 5 Mai a bydd yn cynnwys perfformiad cyntaf cylch caneuon newydd Mark Boden ac amrywiaeth eang o berfformiadau a gosodiadau gan fyfyrwyr a staff adran cyfansoddi CBCDC.

Mae NEWYDD, gŵyl ysgrifennu newydd y Coleg, yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni ac yn symud i leoliad newydd mawreddog yn Llundain. Bydd pedair drama newydd gan rai o ddramodwyr mwyaf cyffrous y DU - Rhiannon Boyle - Simon Longman - Isley Lynn - Paula B Stanic - yn cael eu perfformio am y tro cyntaf yng nghartref y Coleg yng Nghaerdydd rhwng 24 a 31 Mai cyn mynd i’r Young Vic. Mae NEWYDD’24 hefyd yn cynnwys tri myfyriwr actio blwyddyn olaf CBCDC yn cyflwyno eu gwaith eu hunain yn LLEISIAU NEWYDD.

Gŵyl AmserJazzTime

Mae Gŵyl AmserJazzTime flynyddol CBCDC yn dychwelyd rhwng 6-8 Mehefin gyda cherddoriaeth newydd gan rai o artistiaid jazz mwyaf cyffrous o’r DU a thu hwnt.

Bydd y sacsoffonydd gwobrwyedig Binker Golding yn dod â’i bedwarawd, sy’n cynnwys goreuon byd jazz Llundain, i’r Coleg a bydd y trwmpedwr o Gymro, ac un o raddedigion CBCDC, Tomos Williams yn dychwelyd gyda thrydydd cyflwyniad, a’r olaf, o’i brosiect rhyfeddol ‘Cwmwl Tystion’, a bydd y gantores jazz enwog Claire Mae Martin OBE yn aduno gyda’i thriawd medrus o Sweden, dan arweiniad y pianydd a’r trefnydd eithriadol Martin Sjöstedt, wrth iddynt lansio eu halbwm diweddaraf ‘Almost in Your Arms’ (Stunt Records) yng Nghymru. Gellir hefyd mwynhau perfformiadau am ddim gan fyfyrwyr jazz CBCDC drwy gydol yr ŵyl, gan gynnwys sesiwn boblogaidd AmserJazzTime nos Wener yng Nghyntedd Carne.

CBCDC a’r Opera Cenedlaethol Cymru yn dod ynghyd i ddathlu cyfansoddwyr sy’n fenywod

Gan aros ym myd cerddoriaeth, bydd cerddorfeydd OCC a CBCDC yn dod ynghyd i gyflwyno Masquerade, noson ddyrchafedig o gerddoriaeth sy’n dathlu rhai o gyfansoddwyr benywaidd mwyaf blaenllaw’r byd gan gynnwys cerddoriaeth gan Anna Clyne a’r gyfansoddwraig o Gymru Rhian Samuel. Mae Llŷr Williams yn dychwelyd gyda’r trydydd datganiad yn ei gyfres o chwech sy’n archwilio athrylith Haydn i Schumann, a bydd Cyfres Piano Rhyngwladol Steinway 23/24 yn cloi gyda Yulianna Avdeeva yn chwarae ‘Hammerklavier’ ysgytwol Beethoven. Mae’r Coleg hefyd yn falch iawn o fod yn cynnal Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth, gyda diwrnod o artistiaid gwadd yn cynnwys Maestro Carlo Rizzi a Rebecca Evans.

Dathlu Cynllunio ar gyfer Perfformio gyda chacen!

O ran cynllunio, mae ein cynhyrchiad pypedau blynyddol yn ôl gyda stori weledol a cherddorol newydd, ‘Spawn’, a bydd Cynllunwyr CBCDC yn arddangos eu gwaith yn arddangosfa Balance y gellir ei mynychu am ddim. Ni ddylech chwaith golli’r Arddangosfa Propiau Anferth a fydd yn dod â chacennau enfawr i Oriel Linbury i ddathlu ein pen-blwydd mawr!

Treuliwch amser gyda ni...

Does dim rhaid i chi fod yn ‘Big Spender’ i ddathlu gyda gwydraid o fizz am ddim yn Theatr y Sherman ar noson agoriadol ein sioe gerdd fawr Sweet Charity a phrofi doniau ein myfyrwyr cwrs gradd Theatr Gerddorol yn eu sioe olaf; ac mae mwy o gyfleoedd i fwynhau cynyrchiadau cerddorol ac operatig gyda Little Women: The Broadway Musical ac A Midsummer Night’s Dream hudolus Britten.

Drwy gydol y tymor bydd digon o gyfleoedd i fwynhau perfformiadau am ddim yng Nghyntedd Carne, gan gynnwys Cabaret yn y Coleg a’r Bar Sain.

Ymunwch â ni yn CBCDC yr haf hwn i ddathlu’r digwyddiadau hyn a rhagor

Negeseuon newyddion eraill