Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Mae digwyddiadau tymor y gwanwyn 2024 yng CBCDC yn llawn perlau

Wrth i’r Coleg lansio blwyddyn ei ben-blwydd yn 75 oed, mae tymor y gwanwyn yn llawn perlau, o’r arwyr o Gymru y Fonesig Siân Phillips a Gruff Rhys i glasuron y theatr a’r opera sy’n cynnwys ‘Julius Caesar’ gan Shakespeare a Gianni Schicchi gan Puccini.

Rhannu neges

Categorïau

Beth sydd ymlaen

Dyddiad cyhoeddi

Published on 10/01/2024

Wrth i’r Coleg lansio blwyddyn ei ben-blwydd yn 75 oed, mae tymor y gwanwyn yn llawn perlau, o’r arwyr o Gymru y Fonesig Siân Phillips a Gruff Rhys i glasuron y theatr a’r opera sy’n cynnwys ‘Julius Caesar’ gan Shakespeare a Gianni Schicchi gan Puccini.

Mae perfformwyr benywaidd o’r radd flaenaf, y feiolinydd Rachel Podger, y delynores deires Cerys Hafana, y gantores werin Angeline Morrison, y sitarydd Roopa Panesar a’r gantores jazz Liane Carroll i gyd yn dod â’u dawn unigryw eu hunain i’w traddodiadau cerddorol. Hefyd, ceir dawns a theatr gorfforol eithriadol yn ALiCE gan Gwmni Jasmin Vardimon, cynhyrchiad pwerus a llawen Theatr Re, ‘The Nature of Forgetting’, a chipolwg ar ddatblygiad gwaith newydd Anthony a Kel Matsena, ‘BOY-ISH’.

Mae’r tymor hefyd yn cynnwys y cerddor gwerin Martin Green (Lau), y trombonydd ffync Dennis Rollins, yr offerynnwr taro Colin Currie, y pianyddion Louis Lortie ac Elisabeth Brauss a’r soddgrythor Pieter Wispelwey. Rydym hefyd yn falch iawn o gael cyflwyno carfan gyntaf o berfformwyr ein cwrs gradd Theatr Gerddorol, sydd bellach yn eu blwyddyn olaf, ar y llwyfan yn Carrie.

Mae llawer iawn mwy yn ogystal, gan gynnwys arddangosfa’r cyfarwyddwr a’r senograffydd Pamela Howard OBE ‘Croeso i Gymru’, a fydd yn llenwi Stiwdio Syr Howard Stringer yn Yr Hen Lyfrgell â darlun teimladwy o straeon mudo o bedwar ban byd.

Pethau i gadw llygad amdanynt y tymor hwn:

Dawns/Theatr Gorfforol/Theatr ar Ymweliad
Matsena Productions – rihyrsal agored o’u gwaith newydd ‘BOY-ISH’.
Cwmni Jasmin Vardimon – ‘ALiCE’ – bydd y cwmni dawns clodwiw hwn yn ymweld â’r Coleg am y tro cyntaf.
The Nature of Forgetting’ gan Theatre Re – “Beth sy’n weddill pan ddaw’r cof i ben” – stori bwerus a llawen am effaith dementia cynnar ar deulu yn cael ei hadrodd drwy symudiadau.
Mama Afrika – stori’r gantores a’r ymgyrchydd arwrol o Dde Affrica, Miriam Makeba

Menywod â lleisiau unigryw o fewn eu traddodiadau cerddorol
Rachel Podger/Baróc Aberhonddu – un o drysorau’r byd cerddoriaeth yng Nghymru.
Cerys
Hafana - aml-offerynnwr o Gymru sy’n trawsnewid cerddoriaeth draddodiadol, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2023.
Angeline Morrison – cantores werin, ysgrifennwr caneuon ac aml-offerynnwr o Gernyw.
Roopa Panesar – un o’r chwaraewyr sitar gorau o’r DU.
Liane Carroll – lleisydd a phianydd jazz ac enillydd nifer o wobrau.

Theatr Gerddorol
Yn 2021 dechreuodd y myfyrwyr cyntaf ar y cwrs BA Theatr Gerddorol newydd yn CBCDC. Y gwanwyn hwn gall cynulleidfaoedd eu gweld yn perfformio mewn sioe gerdd lawn am y tro cyntaf yn ‘Carrie: The Musical’. Bydd cantorion MA Theatr Gerddorol yn perfformio yn ‘Make me a Song’, y rifiw cerddorol am gerddoriaeth William Finn.

Preswyliadau cerddoriaeth:
Martin Greencerddor gwerin o Lau a chyflwynydd Love, Spit and Valve Oil ar BBC Radio 4 – yn dod â’i angerdd am fandiau pres i’r llwyfan gyda gweithiau newydd cydweithredol.
Dennis Rollins/Velocity Trio - y trombonydd jazz-ffync rhyfeddol yn gweithio gyda myfyrwyr CBCDC.
Pieter Wispelwey - bydd y soddgrythor gwych o’r Iseldiroedd yn chwarae gydag Unawdwyr Llinynnol CBCDC.
Pedwarawd
Colin Currie – perfformiad ochr yn ochr â myfyrwyr offerynnau taro CBCDC.

Gwesteion rheolaidd yn ailymweld:
The Unfurrowed Field gan Manchester Collective a Fergus McCreadie.
Sinfonia Cymru – gyda’r gitarydd trydan ac acwstig gwobrwyedig Sean Shibe.
Cerddorfa
WNO yn dychwelyd i Fienna yn ei chyngerdd Blwyddyn Newydd blynyddol.

Piano
Bydd Louis Lortie ac Elisabeth Brauss yn parhau â Chyfres Piano Rhyngwladol Steinway 23/24.
Bydd y pianydd gwych o Gymru Llŷr Williams yn cyflwyno'r ail ddatganiad yn ei gyfres Archwilio Athrylith: Haydn i Schumann.

Cynllunio ar gyfer Perfformio
Yn ogystal â gweld gwaith ein cynllunwyr theatr dawnus yn ein cynyrchiadau llwyfan, gall cynulleidfaoedd hefyd weld eu gwaith yn agos yn Arddangosfa Croeso i Gymru Pamela Howard a’r digwyddiad bythol boblogaidd Y Sioe Gelf Wisgadwy.

Cwmni Richard Burton – bydd cwmni theatr mewnol y Coleg, sy’n cynnwys myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf o astudio ar ac oddi ar y llwyfan, yn cyflwyno amrywiaeth o ddramâu. Yn ystod mis Chwefror bydd ‘Julius Caesar’ Shakespeare ac ‘Image of an Unknown Young Woman’ gan Elinor Cook yn archwilio anrhydedd a phŵer, mewn perthnasoedd personol a hefyd drwy themâu o bwy neu beth sydd â phŵer yn ein cymdeithas. Ym mis Mawrth awn i fyd ysbïo rhyngwladol yn ‘A Very Expensive Poison’ gan Lucy Prebble, argyfwng byd-eang yn ‘Earthquakes in London’ gan Mike Bartlett a dieithryn dirgel yn ‘The Sewing Group’ gan E.V. Crowe. Bydd y tair drama hynod ddiddorol yn mynd â ni ar daith wefreiddiol o gefn gwlad Loegr yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol, i ddigwyddiadau go iawn a syfrdanol heddiw, i Lundain dystopaidd y dyfodol.

Dwy Opera
Bydd cantorion Ysgol Opera David Seligman yn mynd i Theatr y Sherman yng Nghaerdydd gyda’r opera gomig un act ‘Gianni Schicch’i gan Puccini a ‘La Bella Dormente nel Bosco’ (Y Rhiain Gwsg) gan Ottorino Respighi.

Ymddangosiadau arbennig gan Gymry Nodedig
Bydd Gruff Rhys yn cyhoeddi ei albwm newydd ‘Sadness Sets Me Free’ – POB TOCYN WEDI’I WERTHU.
Bydd Richard Digby Day yn siarad â’r Fonesig Siân Phillips am ei bywyd a’i gyrfa.

Gostyngiad o 20% pan fyddwch yn archebu tri neu fwy o gyngherddau £5

Negeseuon newyddion eraill