Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Coleg Brenhinol Cymru i drawsnewid yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd

Bydd adeilad poblogaidd yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yn cael ei drawsnewid yn ganolfan brysur o greadigrwydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gydag ysbrydoliaeth gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Rhannu neges

Categorïau

Datblygiad

Dyddiad cyhoeddi

Published on 18/11/2021

Trawsnewid Hen Lyfrgell Caerdydd


Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i gais CBCDC i sicrhau prydles hirdymor ar yr adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru. Mae’r cynlluniau uchelgeisiol a gymeradwywyd heddiw (18.11.21) yn addo meithrin yr ystod fwyaf amrywiol o ddoniau a chyfuno arloesedd gyda threftadaeth ddiwylliannol Cymru. 

Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys creu mannau cerddoriaeth a pherfformio, hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg a rhoi ‘lolfa yn y ddinas’ ar gyfer y cyhoedd.

'Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru rydym eisiau ysgogi chwilfrydedd a meithrin yr ystod fwyaf amrywiol o ddoniau, gan gyfuno arloesedd gyda thraddodiad diwylliannol a threftadaeth Cymru.

Mae’n gyffrous iawn i gael y cyfle hwn i ddod â rhyfeddod y Coleg i galon prifddinas Cymru, a gweithio ochr yn ochr â phobl leol, artistiaid a doniau creadigol i wireddu ein cynlluniau. Mae rhoi bywyd newydd i’r Hen Lyfrgell yn rhan o addewid CBCDC i Gymru, ei phrifddinas ac i genedlaethau’r dyfodol.

Dros y blynyddoedd nesaf ein nod fydd cynnig ystod o weithgareddau llawn ysbrydoliaeth a phrofiadau creadigol yn yr Hen Lyfrgell a byddem wrth ein bodd yn archwilio syniadau ar gyfer prosiectau ar y cyd yn y dyfodol gyda sefydliadau ac artistiaid sydd â diddordeb mewn rhannu’r cyfle hwn. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Caerdydd a dychwelyd yr adeilad i’w wreiddiau, sef addysg a chymuned yn Ninas Cerddoriaeth.'
Athro Helena GauntPrifathro CBCDC

Mae’r weledigaeth ffres hon yn defnyddio rhagoriaeth greadigol CBCDC er mwyn cynorthwyo i wireddu potensial llawn y trysor pensaernïol hwn. Mae cais Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnwys cynlluniau i:

  • Weithio mewn partneriaeth â nodau Canolfan y Gymraeg a Diwylliant Cymru i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg
  • Dychwelyd yr Hen lyfrgell i’w swyddogaeth addysg wreiddiol ar gyfer myfyrwyr y Coleg
  • Adfer yr adeilad rhestredig er mwyn arddangos ei nodweddion gwreiddiol, gan gadw at gynllun gwreiddiol yr adeilad
  • Cyflwyno cyfres o fannau perfformio, arddangos a rihyrsal i’r ystafelloedd presennol.
  • Darparu mynediad cyhoeddus i ‘lolfa yn y ddinas’
  • Agor caffi/man creadigol.

Nodiadau i Olygyddion

Am faint fydd y brydles, a beth yw’r telerau?

Unwaith ei bod wedi’i chytuno a’i harwyddo, bydd y brydles yn rhedeg am 99 o flynyddoedd. Yn gyfnewid am rent hedyn pupur, bydd CBCDC yn cytuno i dalu holl gostau rhedeg a chynnal a chadw yr Hen Lyfrgell.

Beth mae CBCDC yn ei wybod am gostau rhedeg a chynnal a chadw’r adeilad hwn?

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau y mae wedi’u cael a’r gwelliannau sydd eisoes wedi’u gwneud, felly mae gennym syniad gweddol dda ar y cam hwn. Cytunir ar Benawdau Telerau y brydles cyn yr ymrwymir yn llawn iddi, ac ar y cam hwnnw byddwn yn comisiynu arolwg strwythurol llawn o’r adeilad er mwyn asesu a chynllunio ar gyfer yr holl gostau a ragamcannir, cyn y caiff y brydles lawn ei drafftio a’i chytuno.

A fydd ymgyrch codi arian cyfalaf er mwyn adfer yr Hen Lyfrgell?

Bydd, fe fydd angen i ni godi arian a sicrhau cefnogaeth rhoddwyr preifat a chyllidwyr cyhoeddus er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer yr Hen Lyfrgell. Mae’r Coleg eisoes yng nghamau cynnar iawn y gwaith o baratoi ymgyrch cyfalaf i dalu am gostau adferiad pensaernïol ysbrydoledig ac addasu’r gofodau ar gyfer gweithgareddau hyfforddi myfyrwyr, perfformio a chyfranogiad cyhoeddus.

Pa fath o weithgarwch fydd yn digwydd yn yr Hen Lyfrgell?

Yn y tymor byr byddwn yn defnyddio’r lle sydd ar gael ar gyfer rihyrsals, tra ein bod yn paratoi’r adeilad ar gyfer y dyfodol. Yn y tymor hwy, byddwn yn cynnal rhaglen brysur o berfformiadau a digwyddiadau cyhoeddus ym meysydd cerddoriaeth a drama, gan gynnwys profiadau trochol ar gyfer cynulleidfaoedd. Fe fydd caffi yno hefyd.

Pryd fydd y brydles yn dechrau, a beth fydd yn digwydd i’r tenantiaid presennol?

Gobeithiwn arwyddo’r brydles yn 2022. Unwaith bod hynny wedi’i gwblhau byddwn yn gweithio gyda thenantiaid ar ddull fesul cam i gymryd perchnogaeth lawn o’r Hen Lyfrgell dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ogystal â rhoi lle i’r tenantiaid presennol anadlu, bydd y dull hwn yn caniatáu i ni gynllunio’n fanwl er mwyn gwireddu gwir botensial yr adeilad, wrth i ni ddod i ddeall o’r tu fewn allan ac o’r tu allan i mewn.

Negeseuon newyddion eraill