Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Cyhoeddi’r Brenin Charles yn Noddwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae’n anrhydedd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyhoeddi nawdd parhaus y Brenin Charles III, wrth i ni ddathlu blwyddyn ein pen-blwydd yn 75 oed.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 15/05/2024

Amlygwyd ymrwymiad hirsefydlog y Brenin Charles i gelfyddydau Cymru yn ei goroni lle dewiswyd y delynores frenhinol a raddiodd o’r Coleg, Alis Huws, i berfformio ‘i gydnabod perthynas a chysylltiad dwfn a hirsefydlog y Brenin â Chymru.’

Gan arddangos talent gerddorol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, fe wnaeth ein His-lywydd Syr Bryn Terfel hefyd greu hanes gyda’r perfformiad Cymraeg cyntaf mewn seremoni coroni.

‘Daeth Ei Fawrhydi Brenin Charles yn Noddwr y Coleg am y tro cyntaf ym 1999, pan oedd yn Dywysog Cymru, felly ni allwn fod yn fwy hapus a diolchgar bod y berthynas 25 mlynedd hon wedi’i chadarnhau fel un sy’n parhau yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 75 oed.

Nid yw’n gyfrinach fod Ei Fawrhydi’n gwerthfawrogi’r celfyddydau yn fawr ac yn hynod wybodus amdanynt. Mae’n deall ac yn gwerthfawrogi’r gwaith rydym yn ei wneud yma yn CBCDC wrth i ni addysgu crefft ddofn, tanio dychymyg a datblygu artistiaid y dyfodol, felly gwerthfawrogir ei Nawdd yn fawr.’
Helena GauntPrifathro CBCDC
Y Tywysog Charles, cyn Dywysog Cymru, yn ymweld â’r Coleg ac yn cwrdd â myfyrwyr i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed

Fel Ei Uchelder Brenhinol, daeth Tywysog Charles yn Noddwr y Coleg yn 1999 ac yn Llywydd yn 2019. 

Fel Noddwr, Llywydd a chefnogwr brwd y Coleg, mae Tywysog Cymru bob amser wedi cymryd diddordeb byw yng nghynnydd y Coleg a’i fyfyrwyr, wedi cynnal sawl Gala yn enw’r Coleg ym Mhalas Buckingham, a dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed yn ein Neuadd Dora Stoutzker.

Daeth y Coleg ynghyd i berfformio er mwyn dathlu pen-blwydd cyn Dywysog Cymru yn Neuadd Dora Stoutzker

Negeseuon newyddion eraill