Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Er cof am Syr Ian Stoutzker

Mae CBCDC yn galaru colli Syr Ian Stoutzker, ei Is-lywydd, cyfaill a chefnogwr, a fu farw dros y penwythnos.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 08/04/2024

Fe’i ganwyd yn Llundain ym 1929 ond symudodd i Dredegar (tref enedigol ei fam a lle’r oedd hi’n addysgu cerddoriaeth a chanu) yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Astudiodd Syr Ian y feiolin yn y Coleg Cerdd Brenhinol, cyn symud i’r London School of Economics, gan arwain at yrfa mewn bancio masnachol.

Roedd Syr Ian yn gefnogwr ffyddlon i achosion Cymreig, a hefyd yn llysgennad dros y celfyddydau - angerdd a drosglwyddwyd iddo gan ei fam, yr athrawes gerddoriaeth. Bu’n hyrwyddo cerddorion ifanc ledled y byd drwy’r llu o brosiectau a gychwynnwyd ganddo ac a gefnogodd, gan gynnwys yng Nghymru. Roedd ei berthynas â’r Coleg yn un arbennig dros ben.

Yn 2019, cafodd ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ymrwymiadgydol oes i’r celfyddydau a cherddoriaeth. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Cerdd Byw Nawr gydaYehudi Menuhin ym 1977, a llywio Cerddorfa’r Philharmonia fel Cadeirydd a Llywydd.

Helpodd ei ddyngarwch i greu ein neuadd gyngerdd Dora Stoutzker hyfryd, a enwyd er clod i’w fam gerddorol. Mae ein Gwobr Stoutzker o fri, a ddyfernir yn flynyddol, yn dathlu a chefnogi eincerddorion mwyaf dawnus sy’n dod i’r amlwg.

Gwerthfawrogwyd ei brofiad, ei gyngor doeth a’i gyfeillgarwch yn fawr ac roedd ei ddymuniad i weld CBCDC yn datblygu’n sefydliad hollbwysig yng Nghymru, y wlad a oedd yn golygu cymaint iddo, i’w deimlo’n gryf. Bydd colled ar ei ôl ac mae ein meddyliau gyda’i wraig a’i deulu ar yr adeg hon o dristwch mawr.

2011: Gala agoriadol adeilad newydd CBCDC

Negeseuon newyddion eraill