Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Er cof am yr Arglwydd Rowe-Beddoe

Rydym yn hynod o drist o glywed am farwolaeth yr Arglwydd Rowe-Beddoe, Cadeirydd Llawryfog y Coleg.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 15/11/2023

Arglwydd Rowe-Beddoe 1937 - 2023

Roedd gan yr Arglwydd Rowe-Beddoe berthynas gydol oes â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac roedd ei wasanaeth a’i ymrwymiad i’r Coleg ac i Gymru yn ddi-flino. Bu’n gysylltiedig â’r Coleg o’r cychwyn cyntaf. Bu’n Gadeirydd rhwng 2000 a 2004 ac yna daeth yn Llywydd CBCDC am 15 mlynedd. Yn 2019 trosglwyddwyd y Llywyddiaeth i Dywysog Cymru ar y pryd, a daeth David yn Gadeirydd Llawryfog cyntaf Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a pharhaodd yn y rôl honno fel llysgennad, cefnogwr a chodwr arian angerddol i’r Coleg. 

Dywedodd Helena Gaunt, Prifathro’r Coleg, ‘Roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn gefnogwr arbennig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru dros ddegawdau lawer. Mae ei gefnogaeth i genedlaethau o fyfyrwyr wedi bod yn aruthrol. Mae ei angerdd dros y celfyddydau, ei arweiniad doeth, ei her a’i egni diddiwedd wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y Coleg. Mae ei uchelgais parhaus dros, a'i falchder yn ein myfyrwyr wastad wedi bod yn ysbrydoledig. Yn syml iawn, roedd yn caru’r Coleg ac roedd y Coleg yn ei garu yntau. Byddwn yn ddiolchgar iddo am byth am ei weledigaeth, ei wasanaeth hir a’i ymrwymiad di-ffael i’n conservatoire cenedlaethol. Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr iawn ac ry’n ni’n anfon ein cydymdeimlad didwyll i’w deulu’. 

Dechreuodd ei gysylltiad â’r Coleg pan oedd yn dal i fod yng Nghastell Caerdydd, a byddai’n ymweld gyda’i fam, Gwendolen, athrawes ganu gyntaf y Coleg. Yn ddiweddarach aeth ati i sefydlu Gwobr Dolan Evans y teulu er cof amdani. 

Yn ogystal â bod yn gerddor medrus, bu’n actio ochr yn ochr â’i ffrindiau, Ian McKellen a Derek Jacobi, tra’r oedd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd hefyd yn agos iawn at ei gyd Gymro, yr actor Richard Burton. Bu’r Arglwydd Rowe-Beddoe yn allweddol wrth greu’r cyfeillgarwch a’r bartneriaeth gyda’r teulu Burton, a alluogodd y Coleg i enwi ei theatr newydd ar ôl yr actor enwog o Gymru. Yna, rhoddwyd caniatâd i’r Coleg roi’r enw Cwmni Richard Burton ar ei gwmni preswyl o actorion blwyddyn olaf, perfformwyr theatr gerddorol, cynllunwyr a rheolwyr llwyfan. 

Fel Llywydd, chwaraeodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe rôl arwyddocaol iawn yn y gwaith o gynllunio a chodi arian ar gyfer Canolfan Anthony Hopkins, ac yna yn y datblygiadau cyfalaf yn 2011, pan agorwyd Neuadd Dora Stoutzker, Theatr Richard Burton ac Oriel Linbury. Fe enwyd y Stiwdio Rowe-Beddoe i gydnabod ei gyfraniad enfawr i’r Coleg.

Negeseuon newyddion eraill