Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Mwynhewch dymor yr Hydref sy’n taflu goleuni newydd ar yr hen ac yn dathlu’r newydd

Archwiliwch raglen gerddoriaeth a theatr lawn y tymor hwn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru 

Rhannu neges

Categorïau

Beth sydd ymlaen

Dyddiad cyhoeddi

Published on 14/08/2023

- Llu o berfformiadau rhad ac am ddim i gynulleidfaoedd newydd ddarganfod Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru 
- Chwe drama gyfoes wedi’u perfformio gan gwmni mewnol y Coleg, sef Cwmni Richard Burton 
- Nadolig yn y Coleg - dathliad o gerddoriaeth a drama 
- Dau dymor piano newydd sbon 
- Y delyn, offeryn cenedlaethol Cymru, yn hawlio’r llwyfan 
- Artistiaid gwadd cyffrous o’r DU a ledled y byd 
- Mwy o berfformiadau hygyrch nag erioed o’r blaen

Uchafbwyntiau’r Theatr

Mae Cwmni Richard Burton y Coleg yn cyflwyno chwe drama eclectig gan gynnwys rhan gyntaf epig arobryn Tony Kushner, Angels In America Part 1 – Millennium Approaches. Rydyn ni’n ymweld â Llundain y gorffennol yn Playhouse Creatures April De Angelis a The Sweet Science of Bruising gan Joy Wilkinson. Mae Stiwdio Caird yn parhau i fod yn gartref i’r dramâu newydd gorau dros y blynyddoedd diwethaf, Blue/Orange gan Joe Penhall sydd wedi ennill sawl gwobr ac a gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn y Theatr Genedlaethol yn 2000, a How to Hold your Breath Zinnie Harris.

Rydyn ni hefyd yn croesawu Black RAT Productions o Gymru gyda The Adventures of Sherlock Holmes, a gall teuluoedd â phlant bach fwynhau'r addasiad i’r llwyfan o lyfr Wow! Said the Owl Tim Hopgood gan Little Angel Theatre, gyda gweithdai creadigol cysylltiedig.

Mae A Queer Collision gan Stuart Waters a Willie Elliot yn cynnig perfformiad dawns doniol ac ingol i gynulleidfaoedd sydd wedi’i osod yn erbyn cefndir o hanes cymdeithasol LGBTQIA+.

Uchafbwyntiau Cerddorol

Byddwn yn gweld lansiad dau dymor piano newydd sbon y tymor hwn: bydd Steinway International Piano Series yn dychwelyd, gan ddechrau â’r pianydd o’r Ariannin Ingrid Fliter, a bydd Llŷr Williams yn parhau â’i berthynas unigryw â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y tro hwn mewn cyfres o gyngherddau Exploring Genius: Haydn to Schumann gan agor gyda pherfformiad deuawd arbennig gyda’r tenor gwych Mark Padmore.

Bydd ein hofferyn cenedlaethol, y delyn, yn hawlio’r llwyfan yn ei holl amrywiaeth, o’i chefnder o’r Gambia, sef y kora, a gaiff ei berfformio gan Sona Jobarteh, i gydweithrediad newydd Catrin Finch gyda’r fiolinydd Gwyddelig Aoife Ní Bhriain, y deuawd electronig FitkinWall, a’r seren glasurol Anneleen Lenaerts. Mae’r telynor penigamp o America Parker Ramsay a Rhodri Davies o Gymru hefyd yn ymuno â ni ar gyfer ein penwythnos telyn a gitâr cyfranogol, Taro Tant.

Mae Sinfonia Cymru yn dychwelyd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda’r sacsoffonydd sydd wedi ennill Gwobr BRIT a Chyflwynydd y BBC Jess Gillam MBE, ac mae Cerddorfa Symffoni a Chorws Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyflwyno Belshazzar’s Feast mawr a chras William Walton yn Neuadd Dewi Sant.

Gerddoriaeth Gyfoes

Mae amrywiaeth syfrdanol o gerddoriaeth gyfoes yn cynnwys synau jazz ysbrydol Matthew Halsall, teyrnged i Gavin Bryars yn ei 80fed flwyddyn o’r Phaedra Ensemble a Laura Jurd, dehongliad newydd o garolau plygain Cymreig gyda Huw Warren ac Angharad Jenkins, a thaith gerddorol a gweledol gorawl Voice Trio sydd wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth St Hildegard o Bingen.

Cyngherddau awr Ginio

Mae cyngherddau amser cinio ar gael drwy gydol y tymor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn Neuadd Dewi Sant wrth i’n myfyrwyr a’n hartistiaid gwadd gyflwyno rhaglenni byr. Mae’r rhain yn cynnwys dychweliad dau gyn-fyfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: y meistr ar yr ewffoniwm ac un a gyrhaeddodd rownd derfynol pres Cerddor Ifanc y BBC, David Childs, a’r pianydd Siwan Rhys, sydd wedi gwahodd rhai o gyfansoddwyr anabl rhagorol Prydain i ysgrifennu gweithiau piano newydd ar ei chyfer mewn partneriaeth â Drake Music Scotland.

Nadolig yn y Coleg

Mae ein tymor Nadoligaidd yn cynnwys ffefrynnau blynyddol Christmas on Broadway, wedi’i berfformio gan ein cantorion a’n cerddorion theatr gerdd, a Gala Opera WNO, sy’n cynnwys ein cantorion a Cherddorfa WNO; ac rydyn ni’n croesawu ymwelwyr arallfydol i Theatr Richard Burton mewn cynhyrchiad unigryw o addasiad enwog Neil Bartlett o A Christmas Carol Dickens a ddatblygwyd gydag BSL integredig mewn ymgynghoriad â’r artist enwog ac un sy’n hyrwyddo mynediad at y celfyddydau Jonny Cotsen.

Mae cyfle hefyd i fwynhau cerddoriaeth yn cael ei chwarae o amgylch y goeden Nadolig yng Nghyntedd Carne, gan gynnwys y sesiwn AmserJazzTime Nadoligaidd hynod boblogaidd i gloi’r tymor.

Mae tocynnau ar werth nawr.

Negeseuon newyddion eraill