Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Y Cyfansoddwr a cherddor Errollyn Wallen yn ymuno â Choleg Brenhinol Cymru fel Artist Preswyl

Mewn cyngerdd yn dathlu ei gwaith ar 4 Tachwedd yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, croesawyd y cyfansoddwr, cerddor a Chymrawd CBCDC Errollyn Wallen, un o’r artistiaid rhyngwladol mwyaf ysbrydoledig, yn Artist Preswyl y Coleg.

Rhannu neges

Categorïau

Cyfansoddi, Cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi

Published on 05/11/2011

Errollyn Wallen yn ymuno â CBCDC


Y tymor hwn mae ei gwaith wedi cael ei berfformio ar draws adrannau cerddoriaeth y Coleg. Ar ei hymweliad â’r Coleg treuliodd Errollyn amser gyda myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr pres a gitâr, yn ogystal â chynnal sesiwn holi ac ateb gyda’r Gerddorfa Symffoni a berfformiodd iddi yn y cyngerdd gyda’r hwyr.

Roedd hwn yn brofiad trochol i’r myfyrwyr, yn dysgu ei cherddoriaeth ac yna’n ei chael hi yn yr ystafell gyda nhw, profi cyfansoddiad yn ei gyd-destun a sicrhau bod y gwaith yn adlewyrchu bywydau eraill.

Mae hefyd yn cyd-fynd â gwaith y Coleg i ailgynllunio ei raglen gradd Cerddoriaeth uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar gydweithredu, gwaith artistig a chymdeithas.

'Mae ei chyfnod preswyl yn ddechrau taith hir gyda’n gilydd, Mae Errollyn yn artist sy’n ymgorffori ein gwerthoedd fel Coleg. Mae hi wedi newid y canfyddiad o’r hyn y mae cerddoriaeth yn ei olygu i gymdeithas ac rydym yn edrych ymlaen iddi ysbrydoli gwaith ein cyfansoddwyr yn y dyfodol, ac yn gobeithio y bydd ein gwaith ni yn ei hysbrydoli hithau.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth
'Mae cyfathrebu yn ganolog i’w gwaith – ennyn diddordeb y gynulleidfa, siarad yn uniongyrchol â chalonnau a meddyliau, a chreu gwaith sy’n ymateb i’r gymuned ac yn ei gwella.

Ein gwaith ni yw hyfforddi gwrandawyr proffesiynol ac mae Errollyn yn enghraifft arbennig o rywun sydd ag empathi a gofal dwfn, a dyna’r dylanwad a’r ysbrydoliaeth rydym ni am eu rhoi i’n myfyrwyr wrth iddynt hyfforddi i fod yn gerddorion y genhedlaeth nesaf.'
Kevin PricePennaeth Perfformio Cerddoriaeth

Mae Errollyn, y dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Coleg iddi yn gynharach eleni, wedi dod yn gyfaill cyfarwydd i’r Coleg ac roedd hi’n un o’r gwesteion cyntaf yng nghyfres Live Lockdown y Coleg yn 2020.

Cyngerdd a gynhelir yn fuan yn CBCDC sy’n cynnwys gwaith Errollyn:

Band Pres CBCDC: Brass & Chrome

10 Tachwedd, 7.30pm, Neuadd Dora Stoutzker

Cymysgedd eclectig o gerddoriaeth, sy’n addo rhywbeth at ddant pawb. Ymunwch â’n Band Pres ar gyfer noson yn dathlu amrywiaeth cerddoriaeth.

Mathias Fanfare from Vivat Regina

Hilary Tann All The Moon Long

Thea Musgrave Variations

Errollyn Wallen Chrome

William Grant Still In Memoriam: The Colored Soldiers Who Died For Democracy

Arthur Bliss Kenilworth

Thierry Deleruyelle A Viking Age

Lucy Pankhurst Wired

Malcolm Arnold Padstow Lifeboat

Arweinydd Dr Robert Childs

Nodiadau i olygyddion

Mae’n anodd gorbrisio effaith y cyfansoddwr a cherddor Errollyn Wallen ar y byd clasurol. Y fenyw ddu gyntaf i gael cyfansoddiad wedi’i berfformio ym Mhroms y BBC, cafodd ei gwaith ei gydnabod ymhellach yn 2020 pan y’i dewiswyd i ail-weithio Jerusalem ar gyfer Noson Olaf y Proms. Mae The Observer wedi’i galw’n ‘fenyw dadeni cerddoriaeth gyfoes Prydain.’

Negeseuon newyddion eraill