

BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Offerynnol a Lleisiol
Dyfarniad:
BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Offerynnol a Lleisiol
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
19 Medi 2027
Hyd:
4 blynedd llawn amser
Cod y cwrs:
300F – UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Astudiwch yn conservatoire cenedlaethol Cymru gyda’n rhaglen BMus (Anrh) flaenllaw. Mae’r cwrs conservatoire pedair blynedd hwn yn cynnig hyfforddiant cerddoriaeth proffesiynol gyda hyfforddiant cerddorol un-i-un, a phrofiad perfformio yn y byd go iawn mewn cyfleusterau rhagorol. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer cantorion ac offerynwyr, ac mae’n datblygu eich celfyddyd a’ch techneg, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd ym maes cerddoriaeth, yn niwydiant cerddoriaeth heddiw.
Pam dewis y cwrs BMus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru?
Hyfforddwch yn un o brif conservatoires cerddoriaeth y DU
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cael ei ystyried yn eang fel un o’r llefydd gorau i astudio cerddoriaeth yn y DU. Mae ein cwrs BMus (Anrh) Cerddoriaeth yn cynnig hyfforddiant un-i-un o’r radd flaenaf, ochr yn ochr â hyfforddiant proffesiynol a gynlluniwyd i’ch paratoi am yrfa gynaliadwy yn y diwydiant cerddoriaeth.
Hyfforddiant cerddorol arbenigol gan arweinwyr diwydiant
Byddwch yn cael gwersi un-i-un a grŵp wythnosol yn eich prif faes astudio, a elwir yn ‘brif astudiaeth’. Mae ein tiwtoriaid yn cynnwys perfformwyr, cyfansoddwyr, arweinwyr a phrif chwaraewyr o gerddorfeydd ac ensembles mawr o fri rhyngwladol. Maent yn cynnig nid yn unig arweiniad technegol, ond hefyd y gefnogaeth fentora a mewnwelediad gwerthfawr i fyd proffesiynol cerddoriaeth.
Hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar berfformiad o'r diwrnod cyntaf
O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cymryd rhan mewn perfformiadau – mewn cyngherddau, ensembles, cynyrchiadau opera, a dosbarthiadau meistr. Mae'r profiadau hyn yn rhan graidd o'ch hyfforddiant, gan eich helpu i ddatblygu fel perfformiwr hyderus, gyda’r gallu i addasu.
Profiad proffesiynol a chysylltiadau â'r diwydiant
Ein partneriaethau cryf â sefydliadau celfyddydol blaenllaw a chwmnïau opera a cherddorfeydd byd-enwog yng Nghaerdydd, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae cynlluniau profiad a lleoliadau ar gael i chi wneud cais fel myfyriwr cerddoriaeth israddedig, gan eich helpu i feithrin cysylltiadau a mewnwelediad ymarferol i fywyd fel cerddor gweithiol.
Cymuned conservatoire greadigol a chydweithredol
Gallwch gydweithredu â myfyrwyr o bob cwr o'r Coleg, o actio i ddylunio, gan feithrin y sgiliau a'r hyder i weithio'n greadigol ar draws gwahanol ffurfiau celf.
Astudiwch mewn amgylchedd canolfan gelfyddydau deinamig
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ganolfan gelfyddydau weithredol yng nghanol Caerdydd, sy'n gartref i raglen perfformio cyhoeddus a gydnabyddir yn rhyngwladol. Bob blwyddyn mae'r Coleg yn croesawu artistiaid clodwiw o bob cwr o'r byd, a chewch eich annog i fynychu cymaint o ddigwyddiadau â phosibl - naill ai am ddim neu am bris gostyngedig i fyfyrwyr.
Byw ym mhrifddinas Cymru
Mae Caerdydd yn lle cyfeillgar, fforddiadwy a chreadigol i fyw. Fel myfyriwr, byddwch yn rhan o sîn gerddoriaeth a chelfyddydau lewyrchus, gyda lleoliadau mawr ar garreg eich drws a chyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau, allgymorth cymunedol a digwyddiadau proffesiynol.
Beth fyddwch yn ei astudio - strwythur y cwrs BMus
Mae ein cwrs cerddoriaeth yn mynd â chi ar daith archwilio datblygiad artistig, gyda hyfforddiant ymarferol a phrofiadau sydd â chysylltiad agos â diwydiannau cerddoriaeth heddiw.
Fel rhan o'ch hyfforddiant pwrpasol, byddwch yn cymryd rhan mewn gwersi unigol a grŵp, dosbarthiadau perfformio a dosbarthiadau meistr gyda rhai o berfformwyr mwyaf clodwiw'r diwydiant. Byddwch hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect corawl ac ystod eang o weithgareddau ensemble a cherddorfaol. Cefnogir y rhain gan fodiwlau astudiaethau proffesiynol allweddol, wedi'u cynllunio'n benodol i ddatblygu pob agwedd ar eich cerddoriaeth a'ch helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Gallwch archwilio ystod eang o genres cerddorol - gan gynnwys repertoires clasurol, traddodiadol Cymreig, jazz a chyfoes - yn ogystal â chadw i fyny â'r agweddau sy'n newid yn barhaus a chyfleoedd newydd cyffrous y diwydiant cerddoriaeth.
Cysylltu â chymunedau
Bydd gennych gyfleoedd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol a rhannu eich gwaith gyda chymunedau ledled Cymru. Gallai hyn gynnwys perfformiadau cymunedol, gweithdai cerddoriaeth ysgolion, allgymorth addysgol a phrosiectau cymunedol eraill.
Darganfyddwch ddewis cynhwysol o gerddoriaeth
Yn ein modiwlau Cerddoriaeth a Chymdeithas, byddwch yn archwilio sut mae cerddoriaeth wedi cael ei defnyddio i hybu newid cymdeithasol, gan archwilio'r ffactorau allweddol a arweiniodd at greu repertoires amrywiol. Gan archwilio ystod fwy cynhwysol o gerddoriaeth, gallwch ddewis astudio gweithiau gan artistiaid LGBTIQA+, yn ogystal â chyfansoddwyr ac artistiaid o'r mwyafrif byd-eang.
Dewch yn artist moesegol a hunanymwybodol
Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddatblygu eich arferion gwaith moesegol a chynaliadwy eich hun, gan eich helpu i feithrin ymwybyddiaeth, proffesiynoldeb a sgiliau cyfathrebu ar gyfer y llwybr gyrfa yr hoffech ei ddilyn pan fyddwch yn graddio.
Yn ystod cyfnod eich gradd, bydd angen i chi gwblhau 180 credyd ar lefel 4, 180 ar lefel 5, a 120 ar lefel 6 i raddio gyda gradd BMus (Anrh) Cerddoriaeth, wedi'i dilysu gan Brifysgol De Cymru.
‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC
Cyfleoedd i berfformio a chydweithredu
• Mae perfformio yn rhan ganolog o'ch hyfforddiant, gydag ystod eang o gyfleoedd i chwarae'n gyhoeddus – o gerddorfeydd a chynyrchiadau opera i ensembles mewnol. Mae hyn hefyd yn cynnwys eich asesiadau perfformio, a fydd fel arfer yn digwydd o flaen cynulleidfa, gan ganiatáu ichi adeiladu eich platfform a sgiliau perfformio artistig, yn ogystal â chysylltu â chynulleidfaoedd yn rheolaidd..
• Byddwch nid yn unig yn hogi eich sgiliau technegol ac artistig gyda rhai o ymarferwyr blaenllaw'r diwydiant, ond bydd gennych gyfleoedd i berfformio a gweithio ar ystod o brosiectau dan arweiniad myfyrwyr o adrannau ar draws y Coleg – o wahanol ddisgyblaethau offerynnol/lleisiol hyd at actio a dylunio.
• Byddwch yn cael y cyfle i gymryd dosbarthiadau meistr gyda rhai o artistiaid rhyngwladol mwyaf clodwiw'r diwydiant, gan ennill cipolwg gwerthfawr ar fyd proffesiynol cerddoriaeth.
• Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau allanol drwy gydol eu hamser yma. Mae digwyddiadau mawr – fel BBC Canwr y Byd Caerdydd a Dylunio Llwyfan y Byd – hefyd wedi'u cynnal ar ein campws.
• Mae gan fyfyrwyr yma gyfleoedd i berfformio neu ymarfer mewn lleoliadau gan gynnwys Neuadd Dora Stoutzker – ein lleoliad cyngerdd blaenllaw – ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau o’r radd flaenaf ar draws ein hysgol gerddoriaeth.
Ein hadrannau a’n meysydd astudio

Adran bres

Adran gyfansoddi

Adran arwain

Adran gitâr

Adran delynau

Adran jazz

Adran biano

Adran offerynnau taro

Adran linynnau

Adran leisiol

Adran chwythbrennau
Cwestiynau cyffredin
Angen cyngor cyn gwneud cais?
Mae ein tîm mynediadau yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiynau am ofynion mynediad, clyweliadau neu fywyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. E-bostiwch admissions@rwcmd.ac.uk i ddechrau arni.
Llwyddiant graddedigion a llwybrau gyrfa
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus ar draws y diwydiant cerddoriaeth - o berfformiadau cerddorfaol ac opera i gyfansoddi ar gyfer ffilm, teledu a gemau, neu arwain prosiectau ac ensembles addysg cerddoriaeth. Maent yn gweithio gyda sefydliadau blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, BBC NOW a’r Tŷ Opera Brenhinol.

Unigolyn graddedig BMus Kina Miyamoto - Cyfansoddwr

Unigolyn graddedig BMus Elliott Kempton - Fiolinydd

Unigolyn graddedig BMus Rachel Starritt - Pianydd
Bywyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Llety

Cymorth i fyfyrwyr

Byw yng Nghaerdydd
Ydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith conservatoire?
Ymunwch â chymuned o gerddorion angerddol a thalentog yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. P’un a ydych chi’n paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol neu’n awyddus i lunio dyfodol addysg cerddoriaeth, mae eich llwybr yn dechrau yma
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy
Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Cerddoriaeth

Cwrdd â'n staff

Ein storïau
Allow Unistats content?
Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.




















