BA (Anrh) Actio
Dyfarniad:
BA (Anrh) Actio
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
19 Medi 2027
Hyd:
3 blynedd llawn amser
Cod y cwrs:
200F - UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Yn y cwrs hyfforddiant ymarferol dwys hwn sy’n seiliedig ar berfformiad, byddwch yn ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y maes theatr, sgrin a’r cyfryngau digidol.
100
100% Boddhad cyffredinol y cwrs
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2025
Trosolwg o’r cwrs
Ewch ar drywydd gyrfa broffesiynol mewn theatr, ffilm a theledu gyda’n rhaglen actio sy’n cyfuno hyfforddiant ymarferol a seiliedig ar berfformiad gyda hyfforddiant arbenigol a chwricwlwm cynhwysol sy’n dathlu lleisiau amrywiol, gwaith newydd a thestunau hanfodol y repertoire clasurol.
Gan weithio gydag ymarferwyr a hyfforddwyr o safon fyd-eang, byddwch yn meithrin ac yn ehangu eich cryfderau unigol, yn hytrach na mowldio eich hun i ddelfryd benodol.
Mae eich hyfforddiant yn dechrau drwy archwilio’r dulliau sylfaenol o ran actio trwy ddosbarthiadau ac ymarferion bob dydd, gan gynnwys ar gyfer gwaith ar y sgrin. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad trylwyr i waith llais a thestun, sgiliau symud a chanu.
Wrth i chi ddatblygu ymhellach yn eich hyfforddiant, byddwch yn ymestyn eich gallu lleisiol a chorfforol i weithio mewn amrywiaeth o genres ac amgylcheddau perfformio gwahanol. Mae prosiectau sy’n seiliedig ar berfformiad yn cynnwys Shakespeare a thestun uwch, comedi, theatr gydweithredol ac wedi’i dyfeisio, ac actio ar y radio. Mae hyfforddiant ychwanegol mewn actio ar y sgrin yn arwain at greu detholiad o olygfeydd wedi’u ffilmio.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymuno â chwmni Richard Burton; sef ein cwmni theatr â ffocws proffesiynol a byddwch yn gweithio ynghyd â’n myfyrwyr rheoli llwyfan, theatr dechnegol a dylunio.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn canolbwyntio ar fyd actio proffesiynol a’r strategaethau sy’n ofynnol ar gyfer dod o hyd i waith a’i reoli. Penllanw’r gwaith hwn yw arddangosfa’r actorion yng Nghaerdydd a West End Llundain i gynulleidfa wadd o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys asiantau a chyfarwyddwyr castio. I’r rhai ohonoch sy’n gymwys i weithio yn yr Unol Daleithiau, rydym yn trefnu cyfres o sesiynau ar-lein i’ch cyflwyno chi i rai o’n cysylltiadau yn y diwydiant yno.
Tysteb
Pam astudio’r cwrs hwn?

- Byddwch yn cael lefel uchel iawn o sylw unigol gan eich tiwtoriaid. Fel arfer, caiff dosbarthiadau Sgiliau a Phrosiectau eu haddysgu mewn grwpiau hanner blwyddyn, gyda thiwtorialau un-i-un mewn Llais a Chanu ac ymarferion grŵp bach ar gyfer astudiaethau golygfa.
Mae’r garfan fach yn golygu bod eich tiwtoriaid wir yn dod i’ch adnabod chi ac maen nhw’n addasu’r gwaith i bob llais, corff ac arddull dysgu unigol.
Mae sesiynau ymarfer myfyriol wythnosol i ganiatáu i chi ddatblygu dealltwriaeth ohonoch chi’ch hun mewn perthynas â’ch crefft a’r proffesiwn rydych wedi’i ddewis, gan greu pecyn cymorth ar gyfer llesiant a gwytnwch fel actor yn y diwydiant.
- Yn eich trydedd flwyddyn, fel rhan o Gwmni Richard Burton, mae cyfle i chi roi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu ym mlynyddoedd un a dau ar waith er mwyn ymarfer a pherfformio nifer o ddramâu llawn a golygfeydd wedi’u ffilmio.
Bydd un o’r cynyrchiadau hyn yn rhan o’n tymor NEWYDD lle byddwch yn gweithio gydag awdur a chyfarwyddwr proffesiynol ar ddatblygu dramâu newydd eu comisiynu sy’n cael eu perfformio yng Nghaerdydd cyn trosglwyddo i leoliad yn Llundain.
Mae cyfle i chi archwilio eich datblygiad artistig, wrth i ni eich hyfforddi i ddyfeisio a chreu eich gwaith eich hun sy’n cael ei berfformio yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn fel rhan o ŵyl fewnol. Yn y flwyddyn olaf, gallwch gynnig eich darn i fod yn un o bedwar darn sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r tymor NEWYDD.
Yn ogystal â’r cynyrchiadau hyn, rydych chi’n perfformio arddangosfa yng Nghaerdydd a’r West End yn Llundain.
Mae ein swyddog cyswllt â’r diwydiant yn gweithio gyda’n myfyrwyr i helpu i feithrin perthynas â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, fel asiantau a chyfarwyddwyr castio.
Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn golygu ein bod yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr, gweithdai a chyfleoedd am glyweliadau gyda phrif asiantau a chyfarwyddwyr castio’r wlad. Drwy gydol eich hyfforddiant, cewch gyfle i greu rhwydwaith o gysylltiadau ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio’n helaeth mewn theatr, ffilm, teledu a radio – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gyda nifer o fyfyrwyr yn cael eu henwebu ar gyfer gwobrau’r diwydiant, a’u hennill. Mae’r cyn-fyfyrwyr nodedig yn cynnwys Anjana Vasan, Anthony Boyle, Tom Rhys Harries, Eric Kofi-Abrefa, Arthur Hughes, Syr Anthony Hopkins, Callum Scott Howells, Thalissa Teixeira, Edward Bluemel, Ruth Jones, Sophie Melville, Eve Myles, Ayomide Adegun ac Isobel Thom.
Gwybodaeth arall am y cwrs
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy
Allow Unistats content?
Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.