Neidio i’r prif gynnwys

Ein campws

Mae adeilad nodedig trawiadol y Coleg wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd yn edrych dros barcdir trefol hyfryd, dim ond 5 munud ar droed o ganol y ddinas a dim ond 15 munud o neuaddau myfyrwyr.

Cymuned glos


Gyda llai na 1000 o fyfyrwyr, rydyn ni’n cynnig amgylchedd o feithrin a chynhwysiant. Mae’r Coleg yn ddigon bach fel na fyddwch yn mynd ar goll yn y dorf a gobeithio y byddwch yn teimlo’n gartrefol iawn.

Mae gan ein prif gampws gyfleusterau o’r radd flaenaf, neuadd gyngerdd a theatrau sy’n ategu ein dau safle addysgu arall. Mae’r Hen Lyfrgell, ein gofod ymarfer a pherfformio diweddaraf, yng nghanol y ddinas, a dim ond taith fer o ganol y ddinas mewn car/bws yw hi i Stiwdios Llanisien – ein gweithdy cynhyrchu yn Llanisien.

Eich cartref oddi cartref

Amgylchedd deinamig ac amrywiol

Mae’r Coleg yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd y ddinas ac fe gynhelir dros 400 o berfformiadau yno bob blwyddyn, sy’n golygu bod digon o gyfleoedd amrywiol i’ch gwaith chi gael ei weld a’i glywed.

Gydag arbenigedd cerdd a drama o dan un to, mae cyfleoedd i gydweithio ar draws disgyblaethau – gan amrywio o gynyrchiadau theatr gerdd, operâu a dramâu ffurfiol ar raddfa fawr, i fentrau sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr, fel REPCo.

Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom ni

'Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn Wallen CBE
'Mae’r rhain yn gyfleusterau o’r radd flaenaf na allwn ond breuddwydio amdanynt pan ddechreuais yn y proffesiwn.'
Syr Bryn Terfel

Llogi ein gofodau

Gadewch i ni gynnal eich digwyddiad nesaf. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o ofodau neilltuedig sydd ar gael i’w llogi, ac rydyn ni wedi ennill enw da am gynnal digwyddiadau rhyngwladol eithriadol, dathliadau personol cartrefol, darllediadau byd-eang, a pherfformiadau gwefreiddiol llwyddiannus.

Cyrraedd yma

Cyfeiriad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Maes y Castell
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ER

Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf