

Theatr Gerddorol
Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2027, bydd gofyn i holl ymgeiswyr gyflwyno clyweliad neu fynychu clyweliad i gefnogi eich cais. Unwaith y byddwch yn cyflwyno eich cais UCAS Conservatoires, dylech greu proffil Acceptd i'ch galluogi i gyflwyno eich clyweliad wedi'i recordio neu drefnu clyweliad wyneb yn wyneb trwy Acceptd.
BA (Anrh) Theatr Gerddorol & MA Perfformio Theatr Gerddorol Pathway
Ar gyfer mynediad ym mis Medi, bydd pob ymgeisydd yn cael gwahoddiad i gyflwyno clyweliad rownd gyntaf hunan-dâp i gefnogi eu cais. Bydd y clyweliad yn cael ei gyflwyno drwy Acceptd. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn e-bostio manylion pellach atoch. Bydd dyddiadau cau'r clyweliadau yn dibynnu ar pryd y byddwch yn cyflwyno'ch cais, byddwn yn cadarnhau eich dyddiad cau pan fyddwn yn e-bostio manylion pellach.
MA Theatr Gerddorol – Llwybr Cyfarwyddo Cerddorol
MA mewn Theatr Gerddorol – Gofynion Clyweliad ar gyfer y Llwybr Cyfarwyddo Cerddorol
Bydd eich clyweliad ar gyfer y llwybr Cyfarwyddo Cerddorol ar y rhaglen MA mewn Theatr Gerddorol yn cynnwys un rownd.
Fel arfer cynhelir clyweliadau wyneb yn wyneb yn CBCDC, Caerdydd. Mewn amgylchiadau eithriadol gallwn gytuno i gynnal clyweliad ar-lein.
MA mewn Theatr Gerddorol – Gofynion Clyweliadau ar gyfer y llwybr Athrawon Canu
Diolch am eich diddordeb yn y rhaglen MA mewn Theatr Gerddorol (llwybr Athrawon Canu).
Cynhelir y clyweliadau mewn un rownd, fel arfer yn wyneb yn wyneb yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yng Nghaerdydd. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cynnig clyweliad ar-lein.
Rydym yn ystyried y clyweliad yn gyfle i ddod i’ch adnabod, a dysgu am eich profiad a’ch potensial fel athro neu athrawes canu. Mae gennym ddiddordeb yn eich dealltwriaeth o dechneg y llais a pherfformio theatr gerddorol, yn ogystal â’ch gallu i gyfathrebu â chantorion, eu cefnogi a’u hysbrydoli.
Rydym yn eich annog i ystyried y clyweliad fel cyfle i rannu eich sgiliau presennol, eich syniadau, a’ch brwdfrydedd dros hyfforddiant a datblygiad y llais.

BA (Anrh) Theatr Gerddorol


















