
MMus Cyfansoddwr-Perfformiwr
Astudiwch ddau arbenigedd ar y lefel uchaf, gan gyfansoddi gwaith creadigol arloesol ochr yn ochr â hyfforddiant perfformio gyda rhai o ymarferwyr gorau’r diwydiant.
Rhagor o wybodaeth
Ar gyfer mynediad mis Medi 2026, bydd gofyn i bob ymgeisydd gyflwyno portffolio a chlyweliad wedi'i recordio i gefnogi eu cais. Ar ôl cyflwyno eich cais UCAS Conservatoires, rhaid i chi greu proffil ar Acceptd er mwyn cyflwyno eich deunyddiau.
Sylwer: Os dewiswch fynychu clyweliad yn bersonol, nid oes angen i chi gyflwyno recordiad fideo. Crëwch eich proffil ar Acceptd a byddwn yn trefnu eich clyweliad.