Neidio i’r prif gynnwys

BA Actio

Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2026, mae tri cham i’r clyweliad ar gyfer y cwrs BA (Anrh) Actio. Cynhelir clyweliadau Rownd Gyntaf ar-lein. Cynhelir clyweliadau Galw’n Ôl wyneb yn wyneb.

Ail alwadau

Nodwch:

  • Dim ond yn ystod yr wythnos y cynhelir clyweliadau; ni allwn gynnig unrhyw apwyntiadau ar benwythnosau.
  • Rydym yn anfon gwybodaeth am glyweliadau trwy e-bost. Ar adegau gellir anfon e-byst i ffolderi sothach, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich ffolderi sothach. Oni bai y cytunir ar estyniad, mae'n bosibl y bydd cais ymgeiswyr nad ydynt yn cyflwyno eu rownd gyntaf erbyn y dyddiad y gofynnwyd amdano yn cael ei dynnu'n ôl.

Gallwn ddefnyddio'r gwasanaeth neges Acceptd i gysylltu â chi, felly cofiwch ychwanegu getacceptd.com fel anfonwr diogel yn eich gosodiadau e-bost.

Adborth

Oherwydd nifer fawr yr ymgeiswyr sy’n mynychu ein clyweliadau actio, yn anffodus ni allwn roi adborth unigol. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol.

Cwestiynau Cyffredin

Sut i ddod o hyd i araith clyweliad?

Nid yw’r Coleg yn darparu rhestr o areithiau (neu ymsonau) clyweliad ar gyfer ymgeiswyr, ac ni allwn wneud awgrymiadau ar gyfer areithiau addas ar gyfer ymgeiswyr unigol. Mae nifer helaeth o areithiau ar gael, rydym yn argymell eich bod yn dewis araith yr ydych yn ei hoffi, yn ei mwynhau ac y gallwch uniaethu â hi a’ch bod yn dilyn y canllawiau a ddarperir yn ein canllawiau clyweliad.

Os ydych yn defnyddio llyfr ymsonau fel man cychwyn ar gyfer dod o hyd i’ch araith, rydym yn argymell eich bod hefyd yn darllen ac yn deall y ddrama gyfan. Mae hyn yn bwysig er mwyn i chi ddeall y cymeriad, ble mae ef neu hi ar yr adeg honno yn y ddrama a’r effaith y mae’r pwynt hwn yn nhaith y cymeriad yn ei gael ar weddill y ddrama.

A allaf berfformio araith yn Gymraeg yn fy nghlyweliad?

Gallwch, gallwch ddewis perfformio araith yn Gymraeg ar unrhyw gam clyweliad. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni eich bod yn dymuno gwneud hynny. Mae hyn er mwyn i ni wneud yn siŵr bod y panel cywir ar eich cyfer, gan na fydd ein holl banelwyr yn gallu siarad Cymraeg.

A allaf berfformio cerdd yn fy nghlyweliad?

Na, nid yw’n bosibl perfformio cerdd yn y clyweliad.

Sut ydw i’n newid dyddiad clyweliad Galw’n Ôl?

Bydd angen i chi anfon cais drwy e-bost i’r adran Mynediadau, nid yw’n bosibl newid dyddiadau ar gyfer cyfweliadau galw’n ôl dros y ffôn. Dylai eich cais nodi eich enw llawn, y cwrs yr ydych clyweld ar ei gyfer, y dyddiad yr hoffech ei newid ac unrhyw ddyddiadau pellach nad ydych ar gael i’w mynychu. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i gynorthwyo pob cais i newid dyddiad, ni allwn warantu y bydd dewis arall addas ar gael.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i dderbyn penderfyniad fy nghlyweliad?

Byddwn yn rhannu’r penderfyniad yn dilyn clyweliad cyn gynted â phosibl ar ôl i ni dderbyn y penderfyniad a gadarnhawyd. Mae penderfyniadau yn dilyn clyweliadau rownd gyntaf fel arfer yn cael eu rhannu o fewn 3 wythnos wedi dyddiad y clyweliad, ond yn ystod cyfnodau prysur iawn gall gymryd mwy o amser.

Mae penderfyniadau clyweliad galw’n ôl yn cael eu rhannu fel arfer o fewn mis wedi dyddiad y clyweliad.

Os ydych yn pryderu am faint o amser y mae wedi’i gymryd, cysylltwch ag admissions@rwcmd.ac.uk. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich ID UCAS, eich enw llawn a dyddiad y clyweliad.

A allaf fynychu clyweliad galw’n ôl ar-lein?

Mae clyweliadau galw’n ôl wedi’u hamserlennu i’w cynnal wyneb yn wyneb. Mewn amgylchiadau eithriadol gallwn gynnig apwyntiad ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys – eich bod wedi’ch lleoli 120 milltir o leoliad y clyweliad neu wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU; salwch; angen ychwanegol sy’n ei gwneud hi’n anodd teithio.

Os ydych wedi’ch gwahodd i fynychu clyweliad galw’n ôl a’ch bod yn dymuno gwneud cais am glyweliad ar- lein, cysylltwch ag admissions@rwcmd.ac.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich ID UCAS, eich enw llawn a nodi pam yr hoffech gael clyweliad ar-lein. Sylwer na fydd clyweliadau galw’n ôl terfynol sy’n digwydd ar-lein yn cynnwys gwaith grŵp. Gallwn eich sicrhau na fydd dull eich clyweliad yn effeithio ar asesiad y panel o’ch addasrwydd.

Ffi clyweliad

Mae ffi clyweliad o £35 i’w dalu am gost trefnu a chynnal clyweliadau.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad at hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf dawnus, waeth beth fo’u cefndir neu fodd ariannol. Mae ein polisi hepgor ffi wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr y gallai eu hamgylchiadau ariannol fod yn rhwystr iddynt glyweld.

Os credwch eich bod yn gymwys i gael clyweliad am ddim, anfonwch unrhyw ddogfennaeth berthnasol I admissions@rwcmd.ac.uk. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich enw llawn a’r cwrs y gwneir cais iddo ac (os ydych wedi gwneud cais eisoes) eich ID UCAS.


Adran archwilio