

Clyweliadau Cerddoriaeth CBCDC yng Ngogledd Cymru
Mae clyweliadau Cerddoriaeth ar gyfer CBCDC yn dod i Theatr Clwyd yng Ngogledd Cymru!
Os ydych chi wedi gwneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), rydym yn cynnig nifer o glyweliadau yn nes at adref. Eleni, am y tro cyntaf, cynhelir nifer o glyweliadau yn ein safle partner rhanbarthol, Theatr Clwyd.
Clyweliadau yn Theatr Clwyd
Am y tro cyntaf mae CBCDC yn cynnig nifer o glyweliadau cyrsiau Cerddoriaeth israddedig yn Theatr Clwyd, gan roi cyfle i ymgeiswyr yng Ngogledd Cymru gael clyweliad yn nes at adref.
Pam gwneud clyweliad yn Theatr Clwyd?
Cael clyweliad yn nes at adref
Ydych chi wedi’ch lleoli yng Ngogledd Cymru neu ychydig dros y ffin? Gallwch nawr wneud clyweliad ar gyfer CBCDC heb orfod teithio i Gaerdydd. Mae ein clyweliadau yn Theatr Clwyd yn ei gwneud hi’n haws cymryd y cam nesaf tuag at astudio Cerddoriaeth yn y Coleg.
Amgylchedd creadigol proffesiynol
Cynhelir clyweliadau yn Theatr Clwyd, un o sefydliadau celfyddydol blaenllaw Cymru a Phartner Rhanbarthol CBCDC. Mae’n gyfle gwych i wneud clyweliad mewn amgylchedd creadigol proffesiynol, yma yng Ngogledd Cymru.
Profiad clyweliad CBCDC
Dangoswch i ni beth allwch chi ei wneud, rhannwch eich potensial cerddorol a dysgwch fwy am astudio yn CBCDC. Bydd ein tîm yno i’ch arwain drwy’r broses clyweliad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dod i adnabod y tîm
Gallwch ddod i adnabod Tîm Cerddoriaeth CBCDC, gofyn gwestiynau am eich cwrs a darganfod sut brofiad yw bywyd yn y Coleg mewn gwirionedd. P’un a ydych chi eisiau gwybod mwy am yr hyfforddiant, cyfleoedd i berfformio neu fywyd myfyrwyr, rydym yma i helpu.
Cyfeiriad
Raikes Lane,
Mold,
CH7 1YA
01352 344101
box.office@theatrclwyd.com
Wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau?
Os gwnaethoch fethu’r dyddiad cau ar gyfer ystyriaeth gyfartal ar 1 Hydref, peidiwch â phoeni – efallai y gallwn ddal ystyried eich cais. Cysylltwch â’n tîm Derbyniadau i drafod eich opsiynau a gweld a allwch wneud cais hwyr.

Diwrnodau agored

BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Offerynnol a Lleisiol

BMus (Anrh) Jazz
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

