
BMus (Anrh) Cerddoriaeth – Cyfansoddi
Dysgwch y sgiliau a fydd yn eich helpu i gyfansoddi amrywiaeth eang o gerddoriaeth - o waith ar gyfer cerddorfa lawn i gerddoriaeth electronig haniaethol.
Rhagor o wybodaeth
Er mwyn eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer eich cyfweliad, darllenwch y nodiadau canllaw canlynol yn ofalus.
I gael mynediad ym mis Medi 2025, bydd gofyn i bob ymgeisydd gyflwyno portffolio i gefnogi eu cais a mynychu cyfweliad ar-lein. Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais UCAS Conservatoires, dylech gyflwyno'ch portffolio wedi'i recordio trwy Acceptd erbyn dydd Gwener 25 Hydref 2024.