Neidio i’r prif gynnwys

MA Actio

Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024, mae dau cham i’r clyweliad ar gyfer y cwrs MA Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Radio. Bydd clyweliadau’r rownd gyntaf yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd clyweliadau adalw yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, yn CBCDC yng Nghaerdydd.

Adborth

Oherwydd nifer fawr yr ymgeiswyr sy’n mynychu ein clyweliadau actio, yn anffodus ni allwn roi adborth unigol. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol.

Cyngor i ymgeiswyr

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cyrsiau Actio MA a BA wneud cais erbyn y dyddiad terfyn ar gyfer y cwrs BA (Anrh) Actio a dilyn y broses clyweliadau BA. Bydd angen i ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y ddau gwrs dim ond gwneud cais ar gyfer y cwrs BA, a nodi pan fyddant yn archebu eu clyweliad eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y ddau gwrs.

Dim ond ar ddyddiau’r wythnos waith y trefnir clyweliadau; ni allwn gynnig unrhyw apwyntiadau ar benwythnosau.

Rydym yn anfon gwybodaeth am glyweliadau - gan gynnwys dolenni Zoom drwy e-bost. Weithiau gall negeseuon e-bost gael eu hanfon i ffolderi sothach, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich ffolderi sothach hefyd. Os nad ydych wedi derbyn eich dolen Zoom erbyn y diwrnod cyn eich clyweliad, cysylltwch â ni. Peidiwch ag aros tan amser dechrau eich clyweliad.

Mae’r Coleg yn rhoi gwerth mawr ar y canlynol:

  • Y gallu i ‘feddiannu’ cymeriad – i ddeall a datgelu ei seicoleg gymhleth.
  • Y parodrwydd i fentro, ond i arfer peth soffistigeiddrwydd wrth wneud hynny.
  • Graslonrwydd wrth weithio gydag eraill.
  • Gallu technegol a mynegiannol o ran llais, symud a chanu.
  • Diddordeb brwd a gwybodaeth am y theatr a’r celfyddydau perfformio perthynol.
  • Profiad bywyd – rydym yn annog ymgeiswyr o ystod oedran eang.

Rydym hefyd yn gwneud yr argymhellion penodol canlynol:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio’r darnau yr ydych wedi’u dewis yn dda.
  • Osgowch areithiau gorboblogaidd. Os ydych wedi dewis darn o lyfr clyweliadau, mae’n debygol y bydd y panel wedi gweld y darn yn cael ei berfformio sawl gwaith o’r blaen.
  • Osgowch areithiau gan gymeriadau sy’n llawer hŷn na chi, oni bai bod y teimladau ynddynt yn rhai oesol.
  • Osgowch ddefnyddio acen heblaw eich acen ei hun, oni bai eich bod yn hollol gadarn ynddi.Osgowch areithiau ffôn.Gwisgwch ddillad priodol sy’n caniatáu i chi symud yn hawdd a chyfforddus.
  • Peidiwch â defnyddio propiau.
  • Mwynhewch y profiad!

Paratoi ar gyfer eich clyweliad Zoom

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod am eich clyweliad mewn man addas; ceisiwch wneud eich cefndir mor blaen â phosibl ac efallai y byddwch am greu ardal yn eich lleoliad fel y gallwch symud o gwmpas heb adael y ‘siot’.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi’ch goleuo’n dda, bod eich dyfais recordio wedi’i gosod ar dreipod neu arwyneb gwastad, yn llinell eich llygaid. Bydd angen i ni allu gweld eich corff cyfan a hefyd dylech allu dod yn agos i’r camera.
  • Os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol, gosodwch eich dyfais yn llorweddol.
  • Byddwch yn yr ystafell aros ychydig funudau cyn amser dechrau eich clyweliad.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich Wi-Fi mor gadarn â phosibl.
  • Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â Zoom cyn diwrnod eich clyweliad, gan gynnwys profi eich gosodiadau sain a llun. Efallai y byddai’n ddefnyddiol trefnu galwad brawf gyda ffrind neu aelod o’r teulu. Os yn bosibl, lawrlwythwch yr ap Zoom ymlaen llaw.
  • Pan fyddwch yn mynd i mewn i’r ystafell aros ar gyfer eich clyweliad, dylai eich enw Zoom gyfateb i’ch enw ar eich cais UCAS Conservatoire.

Os oes gennych anabledd a/neu os oes gennych anghenion penodol, cysylltwch â ni yn uniongyrchol yn admissions@rwcmd.ac.uk i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol mewn pryd ar gyfer eich clyweliad.


Archwilio’r adran