Neidio i’r prif gynnwys

Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ewch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.

Yn y fideo isod, mae pennaeth yr adran, Karen Pimbley, yn siarad â ni am y tri ‘llwybr’ Rheolaeth Celfyddydau

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Hyfforddiant y diwydiant


Mae’r rhaglen unigryw hon yn datblygu graddedigion gwydn, parod am waith y mae galw mawr amdanynt ac a all lwyddo mewn diwydiant cyflym sy’n newid yn barhaus. Rydym yn falch o gael dros 30 o bartneriaid yn y diwydiant, ac mae Opera Cenedlaethol Cymru yn un ohonynt.

'Wrth gymryd lleoliad gyda WNO fel rhan o'r MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC, byddwch yn cael amser gwych. Byddwch yn rhan annatod o dîm cyngherddau'r gerddorfa am y 10 neu 12 wythnos y byddwch gyda ni ac rydych yn ei drin fel un o'r gweithwyr proffesiynol. Beth mae hyn yn ei olygu yw pan fyddwch chi'n dechrau ar eich gyrfa yn gwirionyddol, rydych chi'n mynd i mewn i'r proffesiwn gyda hyder a gwybodaeth eich bod chi wedi gwneud y pethau hynny, rydych chi wedi byw'r swydd honno. Rydych chi'n cael blas go iawn ar sut beth yw bod yn rhan o sefydliad celfyddydol cyflym a mawr - mae hynny'n amhrisiadwy pan ddaw'n amser dechrau eich gyrfa ym maes rheoli'r celfyddydau.'
Matt DownsRheolwr cerddorfa a chyngherddau yn Opera Cenedlaethol Cymru

Pam astudio rheolaeth yn y celfyddydau yn CBCDC?

  • Ar gyfer diwydiant: mae ein cwrs yn adlewyrchu arfer cyfredol gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan dîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant, yn ogystal ag arbenigwyr gwadd sy’n ymweld drwy gydol y flwyddyn.
  • Cyflogadwyedd: rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal record cyflogaeth 100% ers 2013, gyda myfyrwyr yn parhau i sicrhau swyddi cysylltiedig o fewn tri mis i raddio.
  • Canolbwyntio ar brofiad yn y diwydiant: cewch gyfleoedd i gael y profiad gwaith hollbwysig hwnnw gan ei fod yn ffocws allweddol o’r cwrs. Mae gennym raglen lleoliadau gwaith gynhwysfawr ac rydym yn trefnu lleoliadau ar gyfer yr holl fyfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau, yn ein canolfan gelfyddydau aml-leoliad ac o fewn un o’n 30+ o sefydliadau partner allanol.
  • Hyfforddiant seiliedig ar gonservatoire: byddwch yn dysgu mewn conservatoire cerddoriaeth a drama a chanolfan gelfyddydau o safon fyd-eang sy’n darparu cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau gydweithio ar brosiectau ar draws y Coleg a gweithio gydag artistiaid/cwmnïau gwadd.
  • Dewis o dri llwybr arbenigol: dewiswch o blith cynhyrchu creadigol, rheolaeth gerddorfaol neu reolaeth yn y celfyddydau cyffredinol fel eich maes arbenigol, yn dibynnu ar eich diddordeb a’ch dyheadau o ran gyrfa.

100

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal record cyflogaeth 100% ers 2013, gyda myfyrwyr yn parhau i sicrhau swyddi cysylltiedig o fewn tri mis i raddio.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Yn ogystal â bod yn addas ar gyfer graddedigion diweddar, mae’r cwrs hefyd yn ddewis gwych i weithwyr proffesiynol ar ganol eu gyrfa sy’n dymuno uwchsgilio neu symud i rolau arwain. Efallai y bydd ymgeiswyr sydd eisoes â phrofiad proffesiynol yn gweithio yn y celfyddydau yn gallu defnyddio eu profiad fel credyd APEL (Achrediad ar gyfer Profiad Blaenorol) i fyrhau eu taith ddysgu ac arbed ar gostau cyffredinol y cwrs.

Tra bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau’r cwrs yn llawn amser dros flwyddyn, rydym hefyd yn cynnig opsiynau astudio hyblyg, felly os oes angen i chi gydbwyso gwaith/bywyd ochr yn ochr â’ch astudiaethau, ystyriwch ein cyfleoedd mynychu rhan-amser - fel arfer dros ddwy flynedd, ond gall fod hyd at bum mlynedd.

‘Mae creu cyfleoedd i fyfyrwyr rwydweithio a chael profiad ymarferol wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn y diwydiant i roi pecyn trosglwyddadwy o sgiliau a phrofiad ymarfer cyfredol i raddedigion er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl barod am gyflogaeth.’
Karen PimbleyPennaeth Rheolaeth yn y Celfyddydau

Dan arweiniad gweithiwr proffesiynol rheolaeth yn y celfyddydau, Karen Pimbley

Gan ddechrau ei gyrfa fel marchnatwr celfyddydau mewn theatr repertoire ranbarthol, daeth Karen yn Bennaeth Digwyddiadau cyntaf Arena Ryngwladol Caerdydd cyn symud i faes hyrwyddo cerddoriaeth, gan deithio gydag artistiaid o fri rhyngwladol megis Take That, Tom Jones a’r Classical Spectacular. 

Fel uwch arweinydd yn y celfyddydau, bu Karen yn allweddol mewn sefydlu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a bu hefyd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Theatr y DU rhwng 2017 a 2021. 

Ar hyn o bryd mae Karen yn ymddiriedolwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; mae ei gwaith ymgynghorol diweddar yn cynnwys prosiectau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chynghrair Diwylliannol Cymru yn ogystal ag ymchwil gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf